Neidio i'r prif gynnwy

Cwestiynau Cyffredin

Pryd bydd fy nghlaf yn cael ei sgrinio?

Ein nod yw sgrinio cleifion newydd a chymwys o fewn 3 mis iddynt gael eu cofrestru ar gronfa ddata DRSSW. Bydd cleifion yn cael eu galw yn ôl ar sail eu canlyniad sgrinio.

 

Ydych chi’n dal i sgrinio pobl sy’n derbyn gofal ar gyfer Glawcoma, yn cael triniaeth Lucentis neu ar gyfer cyflyrau Offthalmolegol eraill?

Ydym. Bydd cleifion sydd eisoes yn derbyn triniaeth Offthalmolegol ar gyfer glawcoma neu AMD (Lucentis) yn parhau i gael eu sgrinio gan DRSSW oni bai bod eu Hymgynghorwyr Offthalmolegol yn dymuno iddynt beidio. Dylai pob claf arall roi gwybod i DRSSW pan gânt eu rhyddhau gan yr adran Offthalmoleg, er mwyn sicrhau nad ydynt yn colli triniaeth ddilynol.

 

Ydych chi’n parhau i sgrinio os yw’r claf wedi cael adwaith gwael neu alergaidd i Tropicamide?

Os yw cleifion wedi cael adwaith alergaidd gwirioneddol yn y gorffennol, mae modd eu sgrinio o hyd heb ddefnyddio diferion llygad.

 

Dehongli llythyr canlyniadau

Bydd llythyr canlyniadau’r meddyg teulu’n cynnwys gwybodaeth glinigol ategol am ganfyddiadau eraill yn ystod y broses sgrinio e.e. cataract, drusen. Bydd unrhyw argymhellion i’r claf gael asesiad gan Optometrydd yn cael eu nodi’n glir, ynghyd ag unrhyw nodiadau ychwanegol i’r meddyg gofal sylfaenol.

 

Beth am gyflyrau eraill ar y llygaid?

Yn ystod sgrinio’r llygaid, gellir canfod cyflyrau eraill nad ydynt yn ymwneud â diabetes, megis cataract, dirywiad macwlaidd sy’n gysylltiedig ag oedran, ac achludiadau. Os gwelir bod cleifion mewn perygl o golli eu golwg, gellir eu hatgyfeirio at Offthalmolegydd, neu gellir argymell y dylent fynd i weld Optometrydd i gael asesiad pellach. Bydd y rheswm am unrhyw atgyfeiriad yn cael ei ddatgan yn glir ar lythyr canlyniadau’r meddyg teulu.

 

Beth os yw golwg claf wedi dirywio’n ddiweddar neu’n sydyn?

Dylid anfon unrhyw glaf sydd wedi colli neu gael afluniad ar ei olwg yn sydyn i’r adran frys agosaf ar gyfer y llygaid neu fynd i weld yr optometrydd i gael asesiad pellach hyd yn oed pan fo apwyntiad ar gyfer sgrinio wedi’i wneud.

 

Sut gellir atgyfeirio cleifion at yr adran Offthalmoleg?

Atgyfeirir cleifion yr amheuir bod ganddynt neu sydd wedi cael cadarnhad bod ganddynt glefyd y llygaid yn uniongyrchol at Wasanaethau Llygaid yr Ysbyty sydd agosaf at gartref y claf. Rhoddir y rheswm am unrhyw atgyfeiriad a wneir yn llythyr canlyniadau’r meddyg teulu, ynghyd â manylion yr Ymgynghorydd Offthalmolegol.

 

Absenoldebau?

Y grŵp hwn o gleifion yw’r rhai mwyaf tebygol o ddatblygu cymhlethdodau tymor hir yn ymwneud â’r diabetes sydd arnynt, gan achosi dallineb yn y diwedd. Rhowch wybod i DRSSW os ydych yn pryderu am broblemau absenoldeb. Os cynigir apwyntiadau sgrinio i gleifion a’u bod yn absennol yn rheolaidd, hysbysir y meddyg teulu.

 

Ydych chi’n sgrinio cleifion sy’n feichiog?

Ydym. Byddwn yn sgrinio pan fydd y beichiogrwydd wedi’i gadarnhau, wedyn ar ôl 28 wythnos ac unwaith eto dri mis ar ôl yr enedigaeth. Ni ddylid cynnig sgrinio’r retina i gleifion sydd â diabetes beichiogrwydd (canllawiau NSC).

 

Beth sy’n digwydd i gleifion sy’n gwrthod y sgrinio?

Bydd y meddyg teulu’n cael ei hysbysu. Anfonir ffurflen ymwadiad at y claf oddi wrth DRSSW a gofynnir iddo ei llenwi a’i dychwelyd. Mae modd i’r claf ailymuno â’r rhaglen sgrinio unrhyw adeg trwy hunangyfeirio neu ar gais y meddyg teulu.

 

Ydych chi’n sgrinio cleifion sydd â Dirywiad Macwlaidd Cysylltiedig ag Oedran sydd wedi’u cofrestru’n ddall neu’n rhannol ddall?

Ydym, os oes ganddyn nhw rywfaint o olwg perifferol. Os nad oes gan gleifion ddim ymwybyddiaeth o olau o gwbl yn y ddau lygad, yn ôl diagnosis Offthalmolegydd, ni fyddant yn cael eu sgrinio.