Addysg a Hyfforddiant y Gweithlu
Nod Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol yr Adran Iechyd yw sicrhau bod yr holl staff sy’n gweithio yn y gwasanaethau sgrinio yn cael hyfforddiant achrededig priodol. Felly, mae’n ofynnol i holl staff DRSSW gael hyfforddiant priodol ar gyfer y gwasanaeth y maent yn ei ddarparu i gleifion ac mae ganddynt hawl i ddisgwyl hynny. Mae rhaglen hyfforddi gydnabyddedig ac achrededig sy’n addas i’r holl staff yn y sefydliad yn rhan annatod o athroniaeth DRSSW.
Mae holl staff DRSSW yn dilyn cwrs sefydlu dwys wrth ddechrau cyflogaeth ac yn derbyn asesiadau cymhwysedd rheolaidd gyda monitro sicrwydd ansawdd. Mae gan bob aelod o staff gynllun datblygu personol hefyd. Mae DRSSW yn Ganolfan Hyfforddiant City and Guilds ardystiedig.
Ymchwil
Preferences of people with diabetes for diabetic retinopathy screening: a discrete choice experiment
Yeo ST, Edwards RT, Fargher EA, Luzio SD, Thomas RL, Owens DR, Diabet Med, Cyfrol 29, 7 (Gorffennaf 2012) tud 869-877
Diabetic retinopathy screening: perspectives of people with diabetes, screening
intervals and costs of attending screening
Yeo ST, Edwards RT, Luzio SD, Charles JM, Thomas RL, Peters JM, Owens DR, Diabet Med, Cyfrol 29, 7 (Gorffennaf 2012) tud 878-885