Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen COVID-19 Nosocomial Genedlaethol

Nat Noso Header logo

Dysgu o heintiadau COVID-19 a gafwyd o ofal iechyd yng Nghymru 

Mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar iechyd y boblogaeth a systemau gofal iechyd ledled y byd. Fe wnaeth GIG Cymru addasu a newid ei ffocws gweithredol yn gyflym i leihau niwed cymaint â phosibl. Gweithiodd staff y GIG yn ddiflino i gynnal gwasanaethau gofal iechyd ar gyfer y rhai mwyaf anghenus. Fodd bynnag, roedd COVID-19 yn haint newydd ac anrhagweladwy a oedd yn ei gwneud yn anodd iawn ei reoli.

Oherwydd maint a difrifoldeb y pandemig, roedd yn anochel y byddai cleifion yr oedd angen gofal arnynt mewn ysbytai a lleoliadau cleifion mewnol eraill yn wynebu risg uwch o ddal COVID-19. Roedd rheoli lledaeniad COVID-19 mewn lleoliadau gofal iechyd yn heriol, yn enwedig pan oedd nifer yr achosion mor uchel yn y gymuned, ac mewn ysbytai, roedd lefelau uwch o gleifion difrifol wael, arhosiadau hwy a mwy o bobl mewn gwelyau ysbytai. 

Roedd natur y pandemig yn golygu bod niferoedd anarferol uchel o ddigwyddiadau diogelwch cleifion o COVID-19 nosocomiaidd (a gafwyd yn yr ysbyty) wedi’u cofnodi, gan effeithio ar 18,360 o gleifion a’u teuluoedd/gofalwyr ledled Cymru rhwng mis Mawrth 2020 a mis Ebrill 2022. 

Weithiau mae heintiau sy'n deillio o ofal iechyd yn cael eu hystyried yn ddigwyddiad diogelwch cleifion, yn dibynnu ar sut a phryd y cafwyd yr haint. Roedd adolygu'r achosion hyn yn hanfodol er mwyn darparu cymaint o atebion â phosibl i'ch anwyliaid, yn ogystal â chasglu dysgu a phrofiad gwerthfawr. 

 


 
Beth yw Rhaglen Genedlaethol COVID-19 Nosocomiaidd? 

Ym mis Ebrill 2022, sefydlwyd Rhaglen Genedlaethol COVID-19 Nosocomiaidd i gefnogi sefydliadau GIG Cymru yn eu dyletswydd i gynnal ymchwiliadau i’r nifer uchel o ddigwyddiadau diogelwch cleifion o COVID-19 nosocomiaidd. 

Ffurfiodd y Rhaglen Genedlaethol COVID-19 Nosocomiaidd, a arweiniwyd gan Weithrediaeth GIG Cymru, aelodaeth gyfunol o sefydliadau’r GIG ledled Cymru, gan sefydlu fframwaith cenedlaethol i sicrhau bod sefydliadau GIG Cymru yn mabwysiadu ymagwedd mor gyson â phosibl at y broses ymchwilio, a sicrhau bod ymchwiliadau’n cael eu cynnal unwaith a’u gwneud yn dda. Roedd y rhaglen hefyd yn darparu fforwm ar gyfer rhannu gwersi lleol a chenedlaethol o ymchwiliadau. 

 


 
Dysgu a gwella ar draws GIG Cymru 

Gan gydnabod effaith COVID-19 ar gleifion, teuluoedd, gofalwyr a staff GIG Cymru, mabwysiadodd y rhaglen ddull dysgu a geisiai beidio â rhoi bai, ond gwneud y mwyaf o’r cyfle i ddysgu a gwella. 

Mae GIG Cymru wedi cyhoeddi ei Adroddiad Dysgu Diwedd Rhaglen Genedlaethol COVID 19 Nosocomiaidd, sy’n rhoi trosolwg o’r rhaglen. Mae’n crynhoi themâu dysgu cenedlaethol a nodwyd yn ystod y broses ymchwilio. 

  

Mae’r themâu dysgu wedi’u categoreiddio fel a ganlyn: 

Profiadau pobl 

  • Cefnogaeth profedigaeth a gwasanaethau gofal ar ôl marwolaeth 

  • Cefnogi'r defnyddiwr gwasanaeth yn ystod y broses ymchwilio 

  • Cyfyngiadau ymweld 

  • Cyfathrebu â theuluoedd a gofalwyr 

  

Digwyddiadau diogelwch cleifion a phryderon yn eu cylch 

  • Digwyddiadau diogelwch cleifion y tu allan i leoliadau GIG Cymru 

  • Nodi, adrodd ac ymchwilio i Heintiau a Gafwyd mewn Gofal Iechyd (HCAIs) fel digwyddiad diogelwch cleifion 

  • Cymhwyso penderfyniadau Gorchymyn Peidio â Cheisio Adfywio Cardio-pwlmonaidd (DNACPR). 

  • Cadw cofnodion clinigol 

  • Staffio ac adnoddau 

  

Atal a rheoli heintiau 

  • Cyhoeddi a dosbarthu canllawiau 

  • Rheoli achosion 

  • Cynllunio ar gyfer rhyddhau 

  • Amgylcheddau ysbytai 

  

Mae rhagor o wybodaeth am bob un o’r themâu dysgu, yn ogystal ag arferion da, i’w chael yn Adroddiad Dysgu Diwedd Rhaglen y Rhaglen COVID-19 Nosocomiaidd.