Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth

Ynglŷn ag anhwylderau bwyta

Mae anhwylderau bwyta yn gyflyrau iechyd meddwl cymhleth, lle mae ymddygiadau bwyta unigolyn yn dod yn anhrefnus ac yn gallu effeithio ar ei fywyd mewn gwahanol ffyrdd. Mae hyn yn aml yn ffordd o ymdopi â theimladau a sefyllfaoedd anodd.

Fe allai pobl ag anhwylder bwyta:

  • Bwyta symiau mawr o fwyd (gorfwyta mewn pyliau).
  • Bwyta rhy ychydig o fwyd (gelwir hyn yn cyfyngu).
  • Gwneud pethau i wneud iawn am orfwyta canfyddedig, fel ymarfer corff eithafol, neu chwydu ar ôl bwyta (clirio).

Mae'n bwysig cofio nad yw anhwylderau bwyta yn ymwneud â bwyd na phwysau a siâp y corff yn unig. Fe allai rhai pobl ddatblygu anhwylderau bwyta fel modd o reoli sefyllfaoedd personol anodd, neu am resymau eraill fel casineb at fwyd, ofn canlyniadau, neu ddiffyg diddordeb mewn bwyd neu fwyta.

Gall unrhyw un ddatblygu anhwylder bwyta. Nid dewis yw anhwylderau bwyta, a gall llawer o ffactorau cymhleth gyfrannu at sut maen nhw'n datblygu. Gallant gael effaith sylweddol ar les meddyliol, corfforol, a chymdeithasol unigolyn, ac mewn rhai achosion gallant hyd yn oed fygwth bywyd. Fodd bynnag, gyda chymorth, gall pobl wella'n llwyr o anhwylderau bwyta.

Efallai na fydd rhywun sydd ag anhwylder bwyta yn cydnabod ei fod yn sâl, felly mae'n bwysig adnabod pryd y gallai rhywun fod yn profi anhwylder bwyta, a'i helpu i gael cymorth cyn gynted â phosibl.

 

Pwy sydd mewn perygl o anhwylder bwyta?

Gall anhwylderau bwyta effeithio ar bobl o unrhyw oedran, rhyw/rhywedd, cefndir hiliol ac ethnig, a phwysau corff. Gall pobl ag anhwylderau bwyta fod o unrhyw bwysau ac ymddangos yn iach, er y gallent fod yn sâl iawn.

Gall ffactorau risg mewn anhwylderau bwyta gynnwys:

  • Ffactorau genetig (fel ymwrthedd/sensitifrwydd i inswlin, lipidau uchel/isel, neu BMI uchel/isel);
  • Ffactorau amgylcheddol (fel trawma neu adfyd, a straen) neu;
  • Ffactorau datblygiadol (fel y glasoed neu'r menopos).

Weithiau, mae gan bobl ifanc, athletwyr, pobl â hanes teuluol, grwpiau LHDTC+, pobl niwroamrywiol a phobl â chyflyrau iechyd meddwl sy’n cyd-ddigwydd ffactorau risg uwch.

 

Beth sy'n achosi anhwylderau bwyta?

Nid ydym yn gwybod beth yn union sy’n achosi anhwylderau bwyta nac yn eu deall yn llwyr, ond mae ymchwil yn awgrymu bod cyfuniad o ffactorau genetig, biolegol, ymddygiadol, seicolegol, a chymdeithasol yn gallu bod yn gysylltiedig. Bydd cyflwr pob unigolyn yn wahanol ac yn unigryw.

 

Sut mae anhwylderau bwyta yn cael eu trin?

Gellir trin anhwylderau bwyta yn llwyddiannus, ac mae canfod ac ymyrryd yn gynnar yn bwysig ar gyfer gwella. Gall triniaeth ar gyfer anhwylder bwyta gynnwys therapi seicolegol.