Neidio i'r prif gynnwy

Awdioleg

 

Cynlluniwyd y wefan hon i roi gwybodaeth am ofal awdiolegol ledled Cymru a sut i gael gafael ar y gofal sydd ei angen arnoch. Os ydych chi'n poeni am eich clyw, tinitws neu gydbwysedd, mae'n bwysig siarad â'ch meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol cyn gwneud unrhyw benderfyniadau pwysig am eich iechyd. Nod y wefan yw helpu cleifion, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol i ddod o hyd i wybodaeth a ffynonellau cymorth sydd eu hangen arnynt.

 

 

Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau Awdioleg y GIG sydd ar gael yn eich ardal ar gael drwy fynd i wefan eich Bwrdd Iechyd lleol isod.

 

 

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn gyfrifol am wasanaethau’r GIG yn:

Blaenau Gwent

Caerffili

Sir Fynwy

Casnewydd

Torfaen

Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau Awdioleg y GIG yn yr ardaloedd hyn ar gael ar Wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gyfrifol am wasanaethau’r GIG yn:

Ynys Mon

Gwynedd

Conwy

Sir Ddinbych

Sir y Fflint

Wrecsam

Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau Awdioleg y GIG yn yr ardaloedd hyn ar gael ar Wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn gyfrifol am wasanaethau’r GIG yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau Awdioleg y GIG yn yr ardaloedd hyn ar gael ar Wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn gyfrifol am wasanaethau’r GIG yn:

Pen-y-bont ar Ogwr

Merthyr Tudful

Rhondda Cynon Taf

Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau Awdioleg y GIG yn yr ardaloedd hyn ar gael ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gyfrifol am wasanaethau’r GIG yn:

Sir Gaerfyrddin

Ceredigion

Sir Benfro

Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau Awdioleg y GIG yn yr ardaloedd hyn ar gael ar Wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gyfrifol am wasanaethau GIG ym Mhowys. Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau Awdioleg y GIG yn yr ardal hon ar gael ar Wefan Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn gyfrifol am wasanaethau GIG yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, yn ogystal â rhai gwasanaethau rhanbarthol arbenigol. Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau Awdioleg y GIG yn yr ardaloedd hyn ar gael ar Wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.