Yr Athro Emmanuel oedd arweinydd y rhaglen Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu yn GIG Lloegr, ac ymunodd â Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn 2023 i arwain y gwaith o weithredu’r Safon yma yng Nghymru.
Bu’n Athro Niwro-gastroenteroleg yn University College London ac yn Ymgynghorydd Gastroenteroleg yn University College Hospital a’r National Hospital for Neurology and Neurosurgery, a bu hefyd yn cyflawni rôl Cyfarwyddwr dros dro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn GIG Lloegr yn ddiweddar.
Gan ganolbwyntio ar sicrhau bod data yn sail i atebolrwydd mewn sefydliadau, mae’r Athro Emmanuel yn defnyddio ei brofiad o weithio yn GIG Lloegr i sicrhau bod y gwaith o ddatblygu’r Safon yng Nghymru yn effeithiol. Dros gyfnod o amser, bydd y Safon hefyd yn ffordd o fesur newid ac effeithiau camau gweithredu eraill yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol sydd â’r nod o sicrhau bod Cymru yn genedl wrth-hiliol erbyn 2030.
Mae’r Athro Emmanuel yn cael ei gefnogi gan Grŵp Gweithredu Prosiect, gyda swyddogion Llywodraeth Cymru a phartneriaid cyflawni allweddol.
Mae Grŵp Llywio Strategol Cenedlaethol sy’n cael ei gadeirio gan Sarah Morley, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu Sefydliadol a’r Gweithlu yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, yn tynnu ynghyd amrywiaeth eang o randdeiliaid mewn partneriaeth gymdeithasol i ddarparu cyfeiriad ar gyfer gweithredu Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu.
Yn ei rôl fel rhan o rwydwaith Cyfarwyddwyr GIG Cymru, mae Sarah yn cyflawni nifer o rolau arweiniol yn GIG Cymru ar draws meysydd Amrywiaeth a Chynhwysiant, y Gymraeg, ac o ran datblygu’r Proffesiwn Datblygu Pobl a Datblygu Sefydliadol.