Ar gyfer dangosyddion lle mae nifer yr ymatebwyr yn llai na 10, byddwn yn dynodi bod y nifer a gyfrifwyd yn “<10”. Mae’r dull hwn yn sicrhau, er bod y data yn cael eu cynnwys yn ein harddangosfeydd, nad yw’r ffigurau penodol yn cael eu datgelu fel na fydd modd adnabod unigolion.
Mae cyfrinachedd yn agwedd sylfaenol ar brosiect Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu (SCHG). Rydym wedi atgyfnerthu hyn drwy sawl adolygiad annibynnol o brotocolau llywodraethu gwybodaeth a diogelu data. Mae’r data yn cael eu cyflwyno’n gyson mewn fformat cynrychioladol heb gyfeirio at unigolion penodol, a chan gynnal cyfrinachedd felly.
Mae sicrhau cyflawnder y data yn y Cofnod Staff Electronig yn fater y mae pob un o sefydliadau’r GIG yn gweithio’n galed i’w ddatrys. Mae sicrhau bod staff yn gwybod pam mae eu data’n cael eu casglu a sut mae’r data hynny’n cael eu defnyddio i roi newid ar waith yn rhan allweddol o hyn. Bydd staff yn cael eu hannog i wneud hynny yn eu harfarniadau blynyddol, a thrwy hysbysiadau gwthio rheolaidd.
Mae cyflwyno SCHG yn rheswm arall i staff rannu eu data. Mae tîm SCHG yn gweithio gyda rhwydweithiau staff ethnig leiafrifol i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd rhannu data ac i feithrin hyder y staff y bydd y data’n cael eu defnyddio i amlygu’r stigma a’r gwahaniaethu y maen nhw’n eu profi. Rydym yn gobeithio, pan fydd y staff yn dechrau gweld manteision a fydd yn deillio o gamau gweithredu wedi’u targedu sy’n seiliedig ar y data a rennir, y bydd hynny yn cael effaith anorfod ar staff eraill hefyd.
Rydym yn cydnabod bod sicrhau bod staff yn hyderus na fydd modd adnabod unigolion o’r data y maen nhw’n eu rhannu yn allweddol, a gallwn gadarnhau’n bendant fod data’r arolwg yn cael eu cyflwyno mewn ffordd sy’n golygu na ellir adnabod unigolion. Mae data’r Cofnod Staff Electronig yn cael eu cyfuno ac, yn yr un modd, ni ellir olrhain y data i unrhyw unigolyn.
Wrth gasglu data SCHG, bydd sylw penodol yn cael ei roi i gyfraddau’r prosesau disgyblu a galluogrwydd sy’n cael eu cymhwyso i staff, wedi’u categoreiddio yn ôl ethnigrwydd. Pan fydd gwahaniaethau sylweddol i’w gweld rhwng pobl o wahanol gefndiroedd ethnig mewn sefydliadau, bydd camau unioni gofynnol y sefydliadau hynny yn canolbwyntio ar hyn.
Cafodd canllawiau SCHG eu datblygu ar y cyd â phartneriaid allweddol i ddiffinio’r hyn y mae pob dangosydd yn ei olygu, i esbonio sut dylai’r sefydliadau fynd ati i gasglu data, nodi’r ffynonellau ar gyfer y data a chyfrifo’r canlyniad ar gyfer pob dangosydd.
Cafodd y templed ar gyfer casglu data ei brofi gan ddefnyddio data byw gan un o fyrddau iechyd GIG Cymru i nodi o ble y bydd y data yn dod, a beth yw maint a siâp y data. Cynhaliodd tîm prosiect SCHG sesiynau galw heibio ar gyfer rheolwyr data, ym mis Ionawr 2023, i weithio drwy’r templed ac i ateb cwestiynau. Byddwn yn casglu adborth oddi wrth reolwyr data’r gweithlu sydd wedi cwblhau’r casgliad data cyntaf i wella’r broses ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Yn 2021, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hil. Awgrymai’r ymatebion i’r ymgynghoriad mai’r ffaith nad oedd y llywodraeth a sefydliadau’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector yn cydymffurfio’n llawn â’u dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 oedd yn gyfrifol, yn rhannol, am y methiant i leihau hiliaeth. Awgrymwyd bod angen cyflawni Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn llawn, ac y dylai’r pwerau o dan y Ddeddf ddod yn ganolog i’r broses o roi’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (2022) ar waith.
Mae’r gofynion statudol yn fframwaith cynllunio’r GIG yn gosod dyletswydd ar fyrddau’r GIG i geisio sicrwydd ynghylch cydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, y Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol 2020, Deddf Cydraddoldeb 2010 a’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol sydd wedi’i gyhoeddi erbyn hyn.
Cafodd y Ddeddf ei chynllunio i ddiddymu gwahaniaethu ar sail hil mewn cymdeithas, ond nid ydym wedi gweld hyn yn cael ei wireddu. Mae’n amlwg nad drwy fframweithiau deddfwriaethol yn unig y mae creu Cymru wrth-hiliol, nac ychwaith sefydliadau iechyd a gofal gwrth-hiliol. Rydym yn sicrhau bod nodau a chamau gweithredu clir i gyd-fynd â’r ddeddfwriaeth bresennol. Er enghraifft, rydym yn defnyddio Fframwaith Perfformiad y GIG sy’n amlinellu’r disgwyliadau ar sefydliadau’r GIG i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion casglu ac adrodd am ddata SCHG.
Mae Ffigur 24 (tudalen 29) o Adroddiad Cenedlaethol 2024 - GIG Cymru yn dangos y cylch blynyddol ar gyfer casglu a dadansoddi data SCHG. Mae cyrff y GIG yn cyflwyno eu data SCHG yn flynyddol ym mis Ebrill, ac mae dadansoddiad lleol ac Adroddiad Cenedlaethol yn cael eu darparu fis Gorffennaf i fis Medi. Bydd disgwyl i gyrff y GIG nodi data SCHG, ac ymateb iddynt, gan gynnwys gweithredu’n lleol ym mis Hydref ac adrodd ar gynnydd drwy’r cylch sicrwydd polisi blynyddol.
Mae hwn yn faen prawf allweddol ar gyfer llwyddiant SCHG. Bydd creu cydraddoldeb ymhlith yr uwch-reolwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn elfen graidd o fonitro SCHG. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen sefydlu’r ffynhonnell barod o dalent drwy ailwampio’r prosesau recriwtio a dyrchafu. Bydd tyfu’r dalent yn ein gweithlu a chael gwared ar dangynrychiolaeth ymhlith y rheini sy’n gweithio mewn rolau ar lefel uwch drwy gymryd camau cynyddol yn dod yn anorfod pan fydd gennym brosesau AD cynhwysol ar waith.
Yn ogystal â hynny, mae tîm SCHG yn gweithio gyda swyddogion mewn rhannau eraill o Lywodraeth Cymru i sicrhau, wrth benodi swyddogion anweithredol ym mhob un o sefydliadau’r sector cyhoeddus, fod dull sy’n ymwybodol o anghydraddoldeb hil yn cael ei ddilyn.
Diben craidd SCHG yw cynnig mewnwelediadau data dwfn er mwyn gweld ymhle y mae’r anghydraddoldebau yn cael eu teimlo’n fwyaf llym ym mhob sefydliad. O ganlyniad, mae’r ethos o weithio drwy gydgynhyrchu yn rhan annatod o’r athroniaeth ar gyfer gweithredu SCHG. Mae gan fentora ac addysg ran i’w chwarae i feithrin aeddfedrwydd bwrdd mewn perthynas â'r mater o gynhwysiant. Mae’n rhaid wrth ddiwygio prosesau yn gysylltiedig â hyn, fodd bynnag, er mwyn gallu trosi’r hyn a fydd wedi’i ddysgu o berthynas fentora yn gamau gweithredu pendant.
Mae rhwydweithiau staff yn hanfodol i helpu i gefnogi’r gweithlu, ac mae tystiolaeth bendant fod byrddau yn cefnogi rhwydweithiau staff fel un o ganlyniadau camau’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn y bennod ar iechyd. Mae’n ffactor allweddol ar gyfer sicrhau bod arweinwyr yn deall yr heriau y mae staff yn eu hwynebu ac er mwyn dod o hyd i atebion sy’n mynd i wneud gwahaniaeth i brofiadau bywyd y gweithlu. Bydd gan Hyrwyddwyr Cydraddoldeb Gweithredol y sefydliadau rôl allweddol i gefnogi a datblygu aeddfedrwydd eu rhwydweithiau staff.
Mae tystiolaeth bod noddi a hyfforddi staff yn sicr yn dylanwadu ar ddatblygu talent staff wedi’u lleiafrifio. Un cam allweddol y gallai gweithrediaeth pob bwrdd ei gymryd ar unwaith yw noddi cydweithiwr wedi’i leiafrifo a bod yn gynghreiriad dilys i gymuned y gweithlu yn ehangach.
Mae tystiolaeth yn dangos bod pobl wedi’u lleiafrifo yn fwy tebygol o gael cynnig cymorth mentora gan fentor sy’n gweithio ar lefel cymharol isel, tra bod cydweithwyr gwyn yn fwy tebygol o gael eu noddi gan swyddog gweithredol sy’n gweithio ar lefel uwch. Mae trefniadau noddi anffurfiol yn aml yn destun rhagfarn anfwriadol, yn enwedig rhagfarn affinedd (sef tueddiad pobl i ddyrchafu pobl sydd ‘fel nhw eu hunain’, yn enwedig o ran hil, rhywedd, dosbarth a chyfeiriadedd rhywiol). Mae rhaglenni ffurfiol yn helpu i unioni hyn.
Offeryn data yw SCHG i ddarganfod beth yw profiadau bywyd staff a sicrhau bod newidiadau’n cael eu gwneud i arferion y sefydliad sy’n cyflogi ac i’w ddiwylliant. Pan fydd materion penodol yn cael eu nodi ym mhob sefydliad, gall camau gael eu cymryd i fynd i’r afael â nhw.
Mae’r Fframwaith Codi Llais Heb Ofn ym maes iechyd a gofal cymdeithasol wedi’i gyhoeddi i feithrin hyder aelodau’r gweithlu bod prosesau cadarn ar waith a’u bod yn gallu ymddiried y bydd camau gweithredu yn cael eu cymryd. Bydd y Fframwaith hwn yn cael ei ddatblygu ymhellach gydag egwyddorion gwrth-hiliol i sicrhau bod staff o gefndir Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol arall yn GIG Cymru yn gallu codi llais heb ofni wynebu gwahaniaethu na phrofi niwed.
Mae gan SCHG wefan ar blatfform GIG Cymru. Mae’r wefan yn cynnwys gwybodaeth am hanes SCHG, ynghyd ag adnoddau a diweddariadau. Ym mis Medi 2024, cafodd yr Adroddiad Cenedlaethol cyntaf ar gyfer staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG ei gyhoeddi gennym.
Rydym wedi datblygu dau animeiddiad, sydd ar gael i’w gweld ar y wefan o dan y tab adnoddau. Mae un animeiddiad yn egluro cefndir a nodau SCHG, ac mae’r ail animeiddiad yn canolbwyntio ar drin a thrafod data yn ddienw.
Mae gennym amserlen reolaidd ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, a gofynnir i fyrddau iechyd, ymddiriedolaethau iechyd ac awdurdodau iechyd arbennig rannu postiadau yn lleol er mwyn cyrraedd cynulleidfa ehangach.
Datblygwyd pecyn cyfathrebu gennym ar gyfer sefydliadau sy’n cynnwys posteri, sleidiau digidol, ac awgrymiadau o negeseuon cyfathrebu a negeseuon ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol i’w rhannu gan dimau cyfathrebu yn lleol.