Mae taith mil o filltiroedd yn dechrau gyda’r cam cyntaf
Mae cyhoeddi adroddiad cyntaf Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu ar gyfer y GIG yng Nghymru yn gam pwysig yn nhaith Cymru tuag at gyflawni cydraddoldeb hiliol, sy’n uchelgais a nodir yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol 2022. Mae'r daith tuag at fod yn genedl wrth-hiliol erbyn 2030 yn un hir ac anodd, ac mae'r Safon Cydraddoldeb yn arf a fydd yn helpu gyda’r ymdrech hon.
Set ddata yw Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu. Mae'n arddangos profiadau pobl o leiafrifoedd ethnig sy'n gweithio i gyflogwr mwyaf Cymru, ein GIG. Fel set ddata, nid yw'n gyfrwng ar gyfer cyflawni newid ynddo'i hun. Yn hytrach, mae'n fap trywydd sy’n dangos i ba gyfeiriad y mae’r daith newid honno angen mynd a lle mae angen iddi ddod i ben. Mae'r data'n nodi, yn anffodus, bod y gwahaniaethu y mae staff Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn ei brofi yn bodoli ar draws amryw o feysydd - llai o gyfleoedd ar gyfer recriwtio a dyrchafiad, mwy o debygolrwydd o gael eu rhoi ar brosesau gallu a disgyblu, a wynebu mwy o fwlio ac aflonyddwch gan y cyhoedd a chydweithwyr. Mae'r adroddiad cenedlaethol hwn hefyd yn nodi bod staff ar hyd a lled y wlad yn wynebu'r profiadau hyn, a bod y profiadau’n amrywio mewn gwahanol sectorau o fewn gofal iechyd. Er enghraifft, mae staff o gefndiroedd ethnig leiafrifol yn ein Byrddau Iechyd yn llai tebygol o gael dyrchafiad na'u cymheiriaid mewn awdurdodau iechyd arbennig; enghraifft arall yw'r diffyg cyfrannol sylweddol mewn cyfarwyddwyr o gefndiroedd ethnig leiafrifol yn Ymddiriedolaethau'r GIG o'i gymharu â'r gwasanaeth ambiwlans.
Mae hyn yn dangos bod angen i bob un o gyrff GIG Cymru ddeall yr heriau penodol y maen nhw yn eu hwynebu, ac felly mae'r adroddiad cenedlaethol wedi'i ategu gan ddadansoddiad unigol sy’n cael ei rannu gyda phob un o'r cyrff hyn gan ddangos y data sy’n berthnasol iddyn nhw. Bydd arweinyddiaeth pob corff yn mynd i'r afael â thargedau penodol, gan ddefnyddio camau gweithredu ar sail tystiolaeth a monitro perfformiad yn rheolaidd ar hyd y llwybr at welliant. Mae cymryd camau penodol ac effeithiol yn caniatáu i'r prosesau hyn ddod yn gerrig milltir sefydledig i ddangos cynnydd, yn hytrach nag yn newidiadau dros dro yn unig. Er mwyn cyflawni'r nodau hyn mae angen i staff fod yn rhan o’r broses gan rannu eu profiadau yn yr arolwg staff cenedlaethol, yn ogystal â rhoi enghreifftiau unigol o ymarfer da a drwg y maen nhw wedi'u gweld.
Er mai'r hyn sy’n hanfodol i ysgogi'r newid angenrheidiol yw bod arweinwyr yn benderfynol o weld gwelliant gwirioneddol, mae llawer o randdeiliaid eraill y mae eu cyfraniad yn allweddol: yr undebau, Llywodraeth Cymru, sefydliadau diogelwch cleifion cenedlaethol, a'r Colegau Brenhinol. Nid cyfrifoldeb staff yn unig yw dod o hyd i'r atebion - mae angen diben cyffredin o rannu arferion gorau, rheoleiddio wedi'i lywio gan egwyddorion cyfiawnder hiliol a darparu cefnogaeth i'r staff hynny sy'n wynebu'r mwyaf o wahaniaethu. Prif ddiben Cymru wrth-hiliol yw gwella canlyniadau iechyd pawb yng Nghymru, drwy sicrhau bod yr holl staff yn gallu darparu'r gofal gorau posib. Allwn ni ddim fforddio i fethu â chyflawni'r nod hwn.
Hoffwn gloi gyda gwireb enwog arall, ‘Os ydych chi am fynd yn gyflym, ewch ar eich pen eich hun; os ydych chi am fynd yn bell, ewch gyda'ch gilydd’.
Yr Athro Anton Emmanuel, Pennaeth Strategaeth a Gweithredu ar gyfer Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu (SCHG) Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Gymru