Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad Cenedlaethol 2025

 

Cyhoeddwyd ail adroddiad Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu ar gyfer GIG Cymru ym mis Medi 2025. Mae'r adroddiad yn adrodd stori bwysig am yr hyn y mae ein staff yn ei brofi mewn gofal iechyd. Mae'n dangos bod gwahaniaethu ar sail hil a rhywedd yn dal i fod yn gyffredin - nid yn unig mewn polisïau yn y gweithle, ond hefyd yn sut mae pobl yn ymddwyn o ddydd i ddydd.

Fodd bynnag, mae hefyd yn dangos bod rhai sefydliadau wedi gwella eu prosesau recriwtio a disgyblu, gan wneud gweithleoedd yn decach ac yn fwy cynhwysol. Rhaid i ni barhau i symud ymlaen, wedi'n hysbrydoli gan y gwelliannau hyn ac wedi'n harwain gan y cyfleoedd a ddangosir yn y data.

Yr Athro Anton Emmanuel, Pennaeth Strategaeth a Gweithredu ar gyfer Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu (SCHG) Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Gymru