Neidio i'r prif gynnwy

Arolygon Staff

Mae arolygon gweithwyr iechyd a gofal yn darparu data pwysig ar gyfer Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu (WRES). Mae'r ymatebion dienw o'r arolygon cenedlaethol hyn yn helpu i nodi gwahaniaethau ar sail hil ym mhrofiadau staff. Mae'r wybodaeth hon yn tynnu sylw at feysydd lle mae angen i'r GIG a sefydliadau gofal cymdeithasol gymryd camau i wneud gwahaniaeth cadarnhaol.

Mae pob arolwg yn wirfoddol ac yn ddienw. Cynhelir tri arolwg cenedlaethol bob blwyddyn y gall staff iechyd a gofal gymryd rhan ynddynt i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed:

 

Pryd?

Pwy?

Sut?

Arolwg Gofal Cymdeithasol

 

Ionawr-Mawrth

Staff gofal cymdeithasol

Arolwg Dweud Eich Dweud 2024 | Gofal Cymdeithasol Cymru

Arolwg Staff y GIG

Hydref-Rhagfyr

Staff y GIG a gyflogir yn uniongyrchol

Arolwg Staff GIG Cymru 2023 - AaGIC

Arolwg Cynhwysiant a Pherthyn y Gweithlu Gofal Sylfaenol

Medi-Tachwedd

Pob aelod o staff ym maes fferylliaeth, deintyddiaeth, meddygaeth deulu ac optometreg

Course: PRIMARY CARE STAFF INCLUSION AND BELONGING SURVEY 2024 (nhs.wales)