Neidio i'r prif gynnwy

Safon Cydraddoldeb y Gweithlu i Gymru

Mae Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â phartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol, wedi cymryd camau breision tuag at adeiladu gweithle tecach a mwy cynhwysol i staff iechyd a gofal cymdeithasol.

Roedd cyhoeddi adroddiad blynyddol cyntaf Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu (WRES) yn 2024 yn nodi adeg dyngedfennol o ran cryfhau data'r gweithlu a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau hiliol a fodolai ers tro byd ar draws y sector. Roedd yn cyflenwi ymrwymiad allweddol yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Am y tro cyntaf, adroddodd sefydliadau iechyd a gofal yng Nghymru ar 12 dangosydd allweddol gan roi mewnwelediad clir ar y gwahaniaethau mewn profiadau yn y gweithle rhwng staff Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a'u cydweithwyr gwyn. Gosodwyd y sylfaen ar gyfer sicrhau newid ystyrlon, sy'n seiliedig ar ddata.

Adeiladodd adroddiad 2025 ar y casgliad data cychwynnol, ac rydym wedi gweld arwyddion cadarnhaol mewn perthynas â newid, a sefydliadau'n defnyddio'r data i wella prosesau er budd staff. 

Wrth adeiladu ar lwyddiant WRES, rydym yn ehangu i Safon Cydraddoldeb y Gweithlu (WES). Bydd hyn yn cynnal ein ffocws ar fynd i'r afael ag anghyfartaledd hiliol ac ar yr un pryd yn cofnodi profiadau bywyd staff ar draws yr holl nodweddion gwarchodedig. Drwy WRES rydym wedi gweld gwerth tynnu sylw at ddata croestoriadol, fel rhywedd a hil, er mwyn deall anghydraddoldeb yn well. Mae WES yn ein galluogi i gymhwyso'r gwersi hyn yn ehangach, a sbarduno polisïau cynhwysol sy'n adlewyrchu’r holl staff ac sydd o fudd i bob un ohonynt.

Mae WES yn cyd-fynd â strategaethau cenedlaethol allweddol sy’n cynnwys:

  • Cynllun Gweithredu LHDTC+
  • Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol
  • Cynllun Hawliau Pobl Anabl
  • Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

Mae hefyd yn cefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sy’n hyrwyddo:

  • Cymru Iachach drwy lesiant yn y gweithle
  • Cymru Lewyrchus drwy waith teg a chyfleoedd
  • Cymru sy’n Fwy Cyfartal drwy gael gwared ar rwystrau i gyflogaeth a datblygiad

Bydd WES yn offeryn hanfodol wrth greu GIG a gweithlu gofal cymdeithasol tecach a mwy cynhwysol—lle mae amrywiaeth yn cael ei ddathlu, a lle mae tegwch wedi'i wreiddio ar bob lefel.

Beth yw Safon Cydraddoldeb y Gweithlu?

Offeryn sy'n helpu sefydliadau’r GIG a gofal cymdeithasol i ddod yn decach ac yn fwy cynhwysol yw Safon Cydraddoldeb y Gweithlu (WES). Drwy gasglu a defnyddio data’r gweithlu i ddeall a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau a gwahaniaethu yn y gweithle, bydd yn tynnu sylw at y gwahaniaethau yn y ffordd y mae’r rhai o gefndiroedd lleiafrifol neu â nodweddion gwarchodedig yn profi gwaith.

Bydd yn cefnogi sefydliadau iechyd a gofal i gyflawni eu nodau a gaiff eu hamlinellu yn Neddf Cydraddoldeb 2010, sy’n cynnwys:

  • Rhoi terfyn ar wahaniaethu ac aflonyddu.
  • Hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb.
  • Annog perthnasoedd da rhwng gwahanol grwpiau.

Bydd y data a gesglir yn cael eu dadansoddi i gwmpasu'r naw nodwedd warchodedig:

  • Oedran
  • Anabledd
  • Ailbennu rhywedd
  • Beichiogrwydd a mamolaeth
  • Hil (yn cynnwys statws mewnfudo)
  • Crefydd neu Gred
  • Rhyw
  • Cyfeiriadedd rhywiol
  • Priodas a phartneriaeth sifil

Byddwn hefyd yn cynnwys data ar ofalwyr di-dâl, cefndir economaidd-gymdeithasol , a chontractau dim oriau er mwyn deall anghydraddoldebau’n well, a mynd i’r afael â nhw.

Sut mae’n gweithio?

  • Casglu a rhannu data:  Bydd sefydliadau iechyd a gofal yn casglu a chyhoeddi gwybodaeth am y gweithlu a fydd o gymorth wrth nodi lle mae anghydraddoldebau’n bodoli.
  • Nodi bylchau: Mae'r data'n helpu i amlygu materion fel diffyg amrywiaeth mewn arweinyddiaeth neu gyfleoedd anghyfartal ar gyfer datblygiad gyrfa.
  • Gosod nodau: Bydd sefydliadau’n gosod targedau clir i wella cydraddoldeb ac olrhain cynnydd dros amser.
  • Sbarduno newid: Efallai y bydd angen i sefydliadau newid eu diwylliant, eu polisïau a'u harferion er mwyn cyflawni'r nodau hyn,
  • Rhannu'r hyn sy'n gweithio: Bydd sefydliadau’n dysgu oddi wrth ei gilydd drwy rannu dulliau llwyddiannus.

Pam mae WES yn bwysig i Gymru?

  • Nodi Anghydraddoldebau: Mae'n helpu i ddatgelu ble mae triniaeth annheg neu rwystrau yn bodoli i rai grwpiau o staff.
  • Sbarduno Newid: Bydd y data a gesglir yn rhoi arweiniad i Lywodraeth Cymru a sefydliadau iechyd a gofal i gymryd camau wedi'u targedu i leihau gwahaniaethu a hyrwyddo tegwch.
  • Gwella gwasanaethau: Drwy greu gweithleoedd mwy cynhwysol, bydd WES hefyd yn helpu i wella'r gofal a'r gefnogaeth y mae pobl yn eu derbyn, yn enwedig y rhai o gefndiroedd amrywiol a allai wynebu heriau wrth gael mynediad at wasanaethau.
  • Gwella llesiant a chyfraddau cadw staff: Mae gweithleoedd tecach yn arwain at staff hapusach ac iachach sy'n fwy tebygol o aros yn eu swyddi.
  • Cefnogi Nodau Cenedlaethol: Mae'n cefnogi uchelgeisiau ehangach a nodir mewn strategaethau allweddol yng Nghymru fel Cymru Iachach a strategaeth deng mlynedd y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol.

Pam mae hyn yn bwysig?

  • Mae mwy o bobl yn cael eu cyflogi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru nag mewn unrhyw sector arall.
  • Mae sefydliadau’r GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gyflogwyr mawr ac mae ganddynt gyfrifoldeb i arwain drwy esiampl wrth hyrwyddo cydraddoldeb a llesiant.
  • Mae gweithleoedd tecach a mwy cynhwysol yn arwain at y canlynol:
    • Staff iachach a mwy cynhyrchiol
    • Cyfraddau salwch ac absenoldeb is
    • Cyfraddau cadw staff gwell
    • Gofal gwell i bobl Cymru