Arweinydd Safon Cydraddoldeb y Gweithlu: Yr Athro Anton Emmanuel
Arweiniodd yr Athro Emmanuel Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu (SCHG) GIG Lloegr a chymerodd y rôl arweiniol ar gyfer gweithredu SCHG yng Nghymru yn 2023. Yn dilyn llwyddiant SCHG, mae Anton Emmanuel bellach yn arwain grŵp gweithredu prosiect gyda swyddogion Llywodraeth Cymru a phartneriaid cyflenwi allweddol i gyflawni Safon Cydraddoldeb y Gweithlu (SCG) ehangach ar gyfer Cymru.
Mae’n Athro Niwro-Gastroenteroleg yng Ngholeg Prifysgol Llundain ac yn Gastroenterolegydd Ymgynghorol yn Ysbyty Coleg y Brifysgol ac yn Ysbyty Cenedlaethol Niwroleg a Niwrolawdriniaeth. Mae'n parhau yn y rolau hyn ochr yn ochr â'r gwaith ar Safon Cydraddoldeb y Gweithlu yng Nghymru.
Mae’r Athro Emmanuel, drwy ganolbwyntio ar sicrhau bod data yn ysgogi atebolrwydd mewn sefydliadau, wedi dod â’i brofiad o GIG Lloegr i sicrhau bod datblygiad SCHG yng Nghymru yn cael effaith.
Mae’r ymgyrch i greu safon ddata sy'n cwmpasu nodweddion eraill ar wahân i hil yn golygu deall yn iawn sut y mae croestoriad o nodweddion gwarchodedig gwahanol yn dylanwadu ar y profiad o anghydraddoldeb yn ein GIG a'n gwasanaethau cymdeithasol. Bydd y ddealltwriaeth ehangach hon nid yn unig yn adlewyrchu profiad pob aelod o'r gweithlu ond hefyd yn llywio'r strategaethau gorau ar gyfer gweithredu polisïau sefydliadol i leihau anghydraddoldebau.