Neidio i'r prif gynnwy

Amdanom ni

Mae Ymchwil Fferylliaeth Cymru yn gydweithrediad aml-randdeiliaid a sefydlwyd i ddatblygu strategaeth ymchwil fferylliaeth i Gymru ac fe’i harweinir gan Bwyllgor Prif Fferyllwyr Cymru Gyfan.


Mae’r strategaeth wedi’i hanelu at holl Ymarferwyr y Gwasanaeth Iechyd ac Ymarferwyr Fferylliaeth sydd â diddordeb mewn ymchwil defnyddio meddyginiaethau sy’n dylanwadu ar arfer a pholisi er budd iechyd pobl Cymru a thu hwnt.

Mae’r GIG yng Nghymru ar hyn o bryd yn wynebu heriau digynsail gyda newidiadau yn anghenion gofal iechyd cleifion, gwasanaethau tameidiog a mwy o dechnoleg i gyd ar adeg o galedi. Gweledigaeth Llywodraeth Cymru, fodd bynnag, yw darparu gwell iechyd i bawb, profiad gwell i gleifion a gwell ansawdd a diogelwch darpariaeth gofal iechyd drwy rymuso cleifion, lleihau rhwystrau rhwng gwasanaethau a darparwyr gwasanaethau a thrwy ddilyn egwyddorion gofal iechyd darbodus a chydgynhyrchu. Dim ond trwy atebion radical a chyfranogiad gweithluoedd gofal iechyd y presennol a'r dyfodol y gellir cyflawni'r rhain. Mae gan fferylliaeth gyfraniad enfawr i’w wneud i ddarparu modelau gofal newydd ac mae ymchwil yn hanfodol i ddarparu’r dystiolaeth sydd ei hangen i gefnogi’r newidiadau trawsnewidiol hyn. Rhaid i’r gweithlu ymchwil fferylliaeth fod yn barod i fodloni’r gofynion presennol ac yn y dyfodol.

Mae’r strategaeth yn mynd i’r afael ag anghenion y proffesiwn fferyllol mewn perthynas ag ymchwil:

 

Cafodd y strategaeth ei llywio gan broses ddatblygu gydweithredol a chafodd ei llywodraethu gan bwyllgor llywio strategol. Ers hynny mae grŵp newydd wedi'i sefydlu i roi'r strategaeth ar waith.

 

Ewch i Ymchwil Fferylliaeth Cymru