Neidio i'r prif gynnwy

Y Strategaeth

 

Arweinir Ymchwil Fferylliaeth Cymru: cynllun strategol 5 mlynedd (2015-2020) gan Bwyllgor Prif Fferyllwyr Cymru Gyfan ac mae’n gynnyrch proses ymgynghori eang o fewn a thu allan i’r proffesiynau fferyllol.

Mae’r strategaeth yn nodi argymhellion ar gyfer strwythur gyrfa mwy hyblyg a fydd yn cyfuno gwaith clinigol ac ymchwil fel mater o drefn ar gyfer y gweithwyr fferyllol proffesiynol hynny sy’n dymuno dilyn gyrfa ymchwil, yn hytrach na’u gorfodi i ddilyn un rôl ar draul y llall. Bydd hyn yn gofyn am ddarparu cyfleoedd hyfforddi a chymwysterau integredig ynghyd ag arweinyddiaeth ymchwil gref ar lefelau cenedlaethol a lleol ac amgylchedd ymchwil glinigol sy'n cefnogi unigolion sy'n dymuno dilyn gyrfaoedd ymchwil ar bob lefel.

Mae’r strategaeth yn nodi 17 o argymhellion wedi’u grwpio i 4 thema:

  1. Diwylliant: Creu diwylliant lle mae gweithwyr fferyllol proffesiynol yn cydnabod pwysigrwydd ymchwil fferylliaeth i iechyd y genedl a dyfodol y proffesiwn.
  2. Gweithlu: Datblygu gweithlu hyblyg sy’n addas ar gyfer y dyfodol lle mae ymchwil er budd cleifion yn ganolog i ymarfer.
  3. Rhannu Gwybodaeth: Cefnogi’r gwaith o ledaenu a chymhwyso gwybodaeth drwy ddatblygu seilweithiau cyfathrebu a phartneriaethau parhaol.
  4. Blaenoriaethau Ymchwil: Nodi a blaenoriaethu themâu ymchwil sy'n dod i'r amlwg ar gyfer Fferylliaeth Cymru sy'n gwella canlyniadau cleifion.
     

 

Ewch i Ymchwil Fferylliaeth Cymru