Neidio i'r prif gynnwy

Cydsyniad y Claf

 

 

Mae'n egwyddor gyfreithiol a moesegol gyffredinol bod yn rhaid cael cydsyniad dilys cyn dechrau triniaeth neu archwiliad corfforol neu ddarparu gofal personol i glaf. Mae'n ofynnol felly i holl sefydliadau'r GIG fod â pholisïau a gweithdrefnau cadarn ar waith i sicrhau y ceir cydsyniad priodol gan gleifion.

 

 

Mae’r egwyddor hon yn adlewyrchu hawl cleifion i benderfynu beth fydd yn digwydd i’w cyrff eu hunain, ac mae’n rhan sylfaenol o arfer da. Gall gweithiwr iechyd proffesiynol nad yw’n parchu’r egwyddor hon fod yn agored i gamau cyfreithiol gan y claf a chamau gweithredu gan ei gorff proffesiynol. Gall cyrff cyflogi hefyd fod yn atebol am weithredoedd eu staff.

Mae Safonau Iechyd a Gofal 2015 yn amlygu gwneud penderfyniadau ar y cyd a chydgynhyrchu fel elfen allweddol o iechyd a gofal o safon uchel sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae cynnwys pobl, teuluoedd a gofalwyr mewn penderfyniadau am gynllunio a darparu eu gofal yn sicrhau bod gwasanaethau wedi'u halinio i ddiwallu eu hanghenion. Mae’r broses gydsynio yn rhan allweddol o wneud penderfyniadau ar y cyd. Nid digwyddiad unigol yw cydsynio ond proses o drafod, pwyso a mesur yr opsiynau a helpu pobl i wneud y penderfyniadau cywir iddynt hwy fel unigolion.

Gyda hyn mewn golwg, mae canllawiau cydsynio Llywodraeth Cymru wedi’u diwygio er mwyn ystyried datblygiadau pwysig mewn cyfraith achosion, yn bennaf achos Montgomery, a symudodd ffocws cydsynio tuag at anghenion penodol y claf. Dylai sefydliadau adolygu unrhyw bolisïau lleol i sicrhau eu bod yn gyson â’r Canllaw newydd ar gyfer Caniatâd ar gyfer Archwiliad neu Driniaeth 2017 – Canllawiau Diwygiedig (llyw.cymru)

Er mwyn hyrwyddo cymhwyso’r arweiniad hwn yn ymarferol, mae GIG Cymru wedi llunio Polisi Enghreifftiol a ffurflenni cydsynio GIG Cymru diwygiedig. Er mwyn helpu i ganolbwyntio’r gwaith a wneir gan bob Corff Iechyd yng Nghymru, Cronfa Risg Cymru (Partneriaeth Cydwasanaethau) sydd bellach yn arwain y Rhaglen Cydsynio i Archwiliad neu Driniaeth yng Nghymru. Mae modd cael hyd i’r dogfennau a’r wybodaeth - PCGC - Cronfa Risg Cymru - Rhaglen Cymru Gyfan i Wella Caniatâd i Driniaeth neu Arholiad