Neidio i'r prif gynnwy

Links - General information

03/09/25
Dysgu am anhwylderau bwyta - Curo Anhwylderau Bwyta

Yma, fe allwch weld rhagor o wybodaeth am y mathau o anhwylderau bwyta, beth i'w wneud os ydych yn credu bod gennych chi neu rywun arall anhwylder bwyta, mythau am anhwylderau bwyta, ac offeryn lle gallwch ofyn cwestiynau.

03/09/25
Trosolwg o anhwylderau bwyta - y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal

Trosolwg o anhwylderau bwyta, gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE). Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am asesu, triniaeth, a gofal cleifion mewnol i blant/pobl ifanc ac oedolion, ac mae ar gyfer pobl yr amheuir bod ganddynt anhwylderau bwyta neu sydd wedi cael diagnosis ohonynt a'u teuluoedd a'u gofalwyr, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol.

03/09/25
Problemau bwyta - YoungMinds

Os ydych chi'n berson ifanc ac yn teimlo bod eich perthynas â bwyd yn dechrau cymryd drosodd eich bywyd, efallai bod gennych chi broblem bwyta. Ond mae cymorth ar gael, ac mae gan YoungMinds gyngor ar ble y gallwch chi gael cefnogaeth.

03/09/25
Gwybodaeth a chymorth - Curo Anhwylderau Bwyta

Curo (Beat) yw prif elusen anhwylderau bwyta'r Deyrnas Unedig, ac yma fe allwch ddysgu mwy am anhwylderau bwyta, a chael gwybodaeth os oes arnoch angen cymorth i chi’ch hun, neu i rywun arall. Gallwch hefyd weld straeon gwella gan bobl sydd wedi profi anhwylderau bwyta, yn ogystal â rhestr termau, a gwybodaeth am linellau cymorth Curo.

03/09/25
Anhwylderau bwyta: cydnabyddiaeth a thriniaeth - y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal

Adnodd llawn gwybodaeth gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) a allai fod yn ddefnyddiol wrth wella dealltwriaeth o adnabod, asesu, egwyddorion gofal a thriniaeth.

03/09/25
Cymorth a chefnogaeth gydag anhwylderau bwyta i bobl ifanc a gofalwyr - FREED

Mae gan wefan FREED (Digwyddiad Cyntaf ac Ymyrraeth Gynnar Gyflym ar gyfer Anhwylderau Bwyta) wybodaeth am gymorth a chefnogaeth i bobl ifanc a gofalwyr gydag anhwylderau bwyta, canllawiau cymorth ar anhwylderau bwyta ac agweddau eraill ar fywyd, ac offeryn hunanasesu.