A oes angen i mi gael prawf clyw?
Os ydych chi'n teimlo nad yw eich clyw cystal ag yr oedd ar un adeg, neu os ydych chi'n cael trafferth clywed, boed yn dawel neu mewn sefyllfaoedd swnllyd yn unig, neu os oes angen i'r sain ar y teledu gael ei droi i fyny, mae'r rhain yn arwyddion y byddai'n werth cael prawf clyw. Mae profiad pobl yn dangos i ni ei bod yn llawer haws dod i arfer â chymorth clyw yn gynnar, yn hytrach nag aros nes y gallai waethygu.
Efallai yr hoffech chi roi cynnig ar y gwiriad clyw ar wefan Action on Hearing Loss.
I gael gwybod sut i gael eich atgyfeirio at eich adran Awdioleg GIG leol, ewch i wefan eich Bwrdd Iechyd Lleol isod.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn gyfrifol am wasanaethau’r GIG yn:
Blaenau Gwent
Caerffili
Sir Fynwy
Casnewydd
Torfaen
Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau Awdioleg y GIG yn yr ardaloedd hyn ar gael ar Wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gyfrifol am wasanaethau’r GIG yn:
Ynys Mon
Gwynedd
Conwy
Sir Ddinbych
Sir y Fflint
Wrecsam
Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau Awdioleg y GIG yn yr ardaloedd hyn ar gael ar Wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn gyfrifol am wasanaethau’r GIG yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.
Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau Awdioleg y GIG yn yr ardaloedd hyn ar gael ar Wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn gyfrifol am wasanaethau’r GIG yn:
Pen-y-bont ar Ogwr
Merthyr Tudful
Rhondda Cynon Taf
Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau Awdioleg y GIG yn yr ardaloedd hyn ar gael ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gyfrifol am wasanaethau’r GIG yn:
Sir Gaerfyrddin
Ceredigion
Sir Benfro
Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau Awdioleg y GIG yn yr ardaloedd hyn ar gael ar Wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gyfrifol am wasanaethau GIG ym Mhowys. Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau Awdioleg y GIG yn yr ardal hon ar gael ar Wefan Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn gyfrifol am wasanaethau GIG yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, yn ogystal â rhai gwasanaethau rhanbarthol arbenigol. Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau Awdioleg y GIG yn yr ardaloedd hyn ar gael ar Wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.