Mae'n gyffredin weithiau i deimlo pendro, yn benysgafn neu'n anghytbwys, ac nid yw'n ddifrifol fel arfer. Ewch i weld meddyg teulu os ydych chi'n poeni.
Efallai y bydd eich meddyg teulu yn eich cyfeirio at Awdioleg i ymchwilio a thrin cyflyrau cydbwysedd.
Mae Awdioleg yn arbenigo mewn anawsterau cydbwysedd sy'n deillio o broblemau yn y glust fewnol - y system festibwlar. Mae'r system festibwlar yn cynnwys y saccule, utricle, a 3 thiwb hanner cylch (llorweddol, blaen ac ôl).
Mae gweithwyr proffesiynol awdioleg yn helpu i ganfod problemau gyda'r system festibwlar. Mae asesu'r system hon fel arfer yn cynnwys trafodaethau manwl am symptomau, effaith weithredol a hanes meddygol, a phrofi gweithrediad cydbwysedd. Mae'r profion a gyflawnir yn dibynnu ar symptomau unigol ond yn aml gallant gynnwys cofnodi symudiadau llygaid wrth gyflawni tasgau amrywiol (oherwydd y cysylltiad agos rhwng y llygaid a'r system festibwlar), profion lleoli, a phrofion gweithrediad osgo.
Gall gweithwyr proffesiynol awdioleg hefyd fod yn rhan o’r gwaith o drin cyflyrau cydbwysedd amrywiol a all gynnwys gwneud symudiadau, neu osod rhaglenni ymarferion (Adsefydlu Festibwlar) ar gyfer cyflyrau cydbwysedd penodol. Maent hefyd yn aml yn gweithio'n agos gyda gweithwyr proffesiynol eraill i wneud diagnosis a thrin problemau cydbwysedd fel arbenigwyr ENT, meddygon clywedol, ffisiotherapyddion, niwrolegwyr a thimau cwympiadau.
Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau Awdioleg y GIG sydd ar gael yn eich ardal ar gael drwy fynd i wefan eich Bwrdd Iechyd lleol isod.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn gyfrifol am wasanaethau’r GIG yn:
Blaenau Gwent
Caerffili
Sir Fynwy
Casnewydd
Torfaen
Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau Awdioleg y GIG yn yr ardaloedd hyn ar gael ar Wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gyfrifol am wasanaethau’r GIG yn:
Ynys Mon
Gwynedd
Conwy
Sir Ddinbych
Sir y Fflint
Wrecsam
Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau Awdioleg y GIG yn yr ardaloedd hyn ar gael ar Wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn gyfrifol am wasanaethau’r GIG yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.
Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau Awdioleg y GIG yn yr ardaloedd hyn ar gael ar Wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn gyfrifol am wasanaethau’r GIG yn:
Pen-y-bont ar Ogwr
Merthyr Tudful
Rhondda Cynon Taf
Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau Awdioleg y GIG yn yr ardaloedd hyn ar gael ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gyfrifol am wasanaethau’r GIG yn:
Sir Gaerfyrddin
Ceredigion
Sir Benfro
Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau Awdioleg y GIG yn yr ardaloedd hyn ar gael ar Wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gyfrifol am wasanaethau GIG ym Mhowys. Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau Awdioleg y GIG yn yr ardal hon ar gael ar Wefan Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn gyfrifol am wasanaethau GIG yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, yn ogystal â rhai gwasanaethau rhanbarthol arbenigol. Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau Awdioleg y GIG yn yr ardaloedd hyn ar gael ar Wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.