Neidio i'r prif gynnwy

Tinitws

Tinitws yw'r enw ar gyfer clywed synau nad ydynt yn dod o ffynhonnell allanol. Nid yw fel arfer yn arwydd o unrhyw beth difrifol a gall wella ynddo'i hun. Efallai y byddwch chi'n clywed y synau hyn mewn 1 glust neu'r ddwy glust, neu yn eich pen. Efallai y byddant yn mynd a dod, neu efallai y byddwch yn eu clywed drwy'r amser. 

Nid yw bob amser yn glir beth sy'n achosi tinitws, ond mae'n aml yn gysylltiedig â:

Rhyw fath o golled clyw.

Cyflyrau fel diabetes, anhwylderau thyroid neu sglerosis ymledol.

Gorbryder neu iselder.

Cymryd rhai meddyginiaethau. Gall tinitws fod yn sgil-effaith i rai meddyginiaethau cemotherapi, gwrthfiotigau, cyffuriau gwrthlidiol ansteroidal (NSAIDs) ac aspirin.

Gall eich meddyg teulu eich atgyfeirio at Awdioleg neu ENT am help a chymorth os yw’r canlynol yn berthnasol i chi:

Rydych yn profii tinitws yn rheolaidd neu'n gyson

Mae eich tinitws yn gwaethygu

Mae eich tinitws yn eich poeni. Er enghraifft, mae'n effeithio ar eich cwsg neu'ch gallu i ganolbwyntio neu'n gwneud i chi deimlo'n bryderus ac yn isel eich ysbryd.

Mae gennych chi tinitws sy'n curo mewn amser gyda'ch curiad y galon.

 

Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau Awdioleg y GIG sydd ar gael yn eich ardal ar gael drwy fynd i wefan eich Bwrdd Iechyd lleol isod.

 

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn gyfrifol am wasanaethau’r GIG yn:

Blaenau Gwent

Caerffili

Sir Fynwy

Casnewydd

Torfaen

Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau Awdioleg y GIG yn yr ardaloedd hyn ar gael ar Wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gyfrifol am wasanaethau’r GIG yn:

Ynys Mon

Gwynedd

Conwy

Sir Ddinbych

Sir y Fflint

Wrecsam

Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau Awdioleg y GIG yn yr ardaloedd hyn ar gael ar Wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn gyfrifol am wasanaethau’r GIG yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau Awdioleg y GIG yn yr ardaloedd hyn ar gael ar Wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn gyfrifol am wasanaethau’r GIG yn:

Pen-y-bont ar Ogwr

Merthyr Tudful

Rhondda Cynon Taf

Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau Awdioleg y GIG yn yr ardaloedd hyn ar gael ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gyfrifol am wasanaethau’r GIG yn:

Sir Gaerfyrddin

Ceredigion

Sir Benfro

Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau Awdioleg y GIG yn yr ardaloedd hyn ar gael ar Wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gyfrifol am wasanaethau GIG ym Mhowys. Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau Awdioleg y GIG yn yr ardal hon ar gael ar Wefan Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn gyfrifol am wasanaethau GIG yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, yn ogystal â rhai gwasanaethau rhanbarthol arbenigol. Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau Awdioleg y GIG yn yr ardaloedd hyn ar gael ar Wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.