Neidio i'r prif gynnwy

Gyrfa ac Addysg

Gwybodaeth i fyfyrwyr a gweithwyr proffesiynol am yrfaoedd, datblygiad pellach, a chynnwys addysgol.

Mae awdioleg yn ymwneud ag adnabod ac asesu gweithrediad clyw a chydbwysedd a'u hanhwylderau cysylltiedig. Mae yna lawer o lwybrau mynediad i Awdioleg o lefel prentis i lefel gwyddonydd.

Mae rhagor o wybodaeth am lwybrau hyfforddi Awdioleg ar gael ar y dolenni canlynol:

Mae gwefan Gyrfa Cymru a Gyrfaoedd Iechyd yn darparu gwybodaeth am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl o'r gwahanol rolau o fewn Awdioleg.

Mae Prifysgol Abertawe yn darparu cyrsiau amrywiol mewn Awdioleg o ymarfer Awdiolegol Sylfaenol (lefel HECert) i Wyddor Gofal Iechyd (lefel Bsc).

 

Mae AaGIC yn darparu rhagor o wybodaeth am y Rhaglen Hyfforddi Gwyddonwyr Awdioleg (STP)

 

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn gyfrifol am wasanaethau’r GIG yn:

Blaenau Gwent

Caerffili

Sir Fynwy

Casnewydd

Torfaen

Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau Awdioleg y GIG yn yr ardaloedd hyn ar gael ar Wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gyfrifol am wasanaethau’r GIG yn:

Ynys Mon

Gwynedd

Conwy

Sir Ddinbych

Sir y Fflint

Wrecsam

Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau Awdioleg y GIG yn yr ardaloedd hyn ar gael ar Wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn gyfrifol am wasanaethau’r GIG yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau Awdioleg y GIG yn yr ardaloedd hyn ar gael ar Wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn gyfrifol am wasanaethau’r GIG yn:

Pen-y-bont ar Ogwr

Merthyr Tudful

Rhondda Cynon Taf

Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau Awdioleg y GIG yn yr ardaloedd hyn ar gael ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gyfrifol am wasanaethau’r GIG yn:

Sir Gaerfyrddin

Ceredigion

Sir Benfro

Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau Awdioleg y GIG yn yr ardaloedd hyn ar gael ar Wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gyfrifol am wasanaethau GIG ym Mhowys. Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau Awdioleg y GIG yn yr ardal hon ar gael ar Wefan Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn gyfrifol am wasanaethau GIG yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, yn ogystal â rhai gwasanaethau rhanbarthol arbenigol. Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau Awdioleg y GIG yn yr ardaloedd hyn ar gael ar Wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.