Neidio i'r prif gynnwy

Nod 2: Cyfeirio pobl ag anghenion gofal brys i'r lle iawn, y tro cyntaf

Pan fydd angen gofal brys ar bobl, gallant ddefnyddio gwasanaeth gofal brys 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos sydd ar gael trwy GIG 111 Cymru. Mae’r gwasanaeth hwn yn rhoi cyngor ar-lein neu dros y ffôn, a phan fo angen caiff pobl eu cyfeirio neu eu hatgyfeirio i’r gwasanaeth iawn, naill ai yn y gymuned neu mewn ysbyty, a hynny y tro cyntaf.

Mae defnyddwyr gwasanaethau yn ymwneud â’r broses o wneud penderfyniadau ar y cyd a chânt ofal cydgysylltiedig lle caiff gwybodaeth am y claf ei chyfnewid mewn modd clir a manwl gywir rhwng gweithwyr proffesiynol perthnasol yn y sector iechyd a gofal.

Datganiad Ansawdd:

·        Caiff pobl sydd angen gofal brys eu cynorthwyo i ddeall gwerth gofyn am gyngor trwy ddefnyddio gwasanaeth teleffoni neu blatfform ar-lein GIG 111 Cymru, a chânt wasanaeth hynod ymatebol sy’n darparu gofal mor agos at y cartref â phosibl, gan leihau trafferth ac anghyfleustra.

·       Caiff y bobl hynny sydd â phroblem frys yn ymwneud â’u hiechyd a’u lles – sef problem a allai arwain at niwed sylweddol neu barhaol pe na bai’n cael ei hasesu neu ei thrin o fewn wyth awr – eu cynorthwyo i gael y profiad a’r canlyniad gorau posibl trwy gyfrwng gwasanaethau gofal sylfaenol brys. Bydd hyn yn cynnwys:

    • ymgynghoriad cychwynnol ar y ffôn trwy wasanaeth 111
    • cael eu cyfeirio at apwyntiad gofal sylfaenol ar yr un diwrnod neu apwyntiad gofal sylfaenol y tu allan i oriau; neu gyngor fferyllol, deintyddol neu optometreg
    • cael eu cysylltu’n uniongyrchol â chyngor iechyd meddwl
    • cael eu cyfeirio / hatgyfeirio i ganolfan gofal sylfaenol brys; a / neu
    • cael eu cyfeirio i slot amser cyrraedd mewn uned mân anafiadau neu Adran Argyfwng, neu y trefnir apwyntiad o’r fath ar eu cyfer.

·        Mae gan staff iechyd a gofal fynediad at ‘gyfeiriadur o wasanaethau’ sy’n cynnwys gwybodaeth gynhwysfawr, gywir a chyfoes fel y gallant gyfeirio pobl i’r lle iawn y tro cyntaf ar sail eu hangen unigol.


I ddarllen mwy am Nod 2 gan gynnwys y blaenoriaethau cychwynnol, sut y bydd systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu cefnogi i gyflawni'r nod hwn a sut y bydd llwyddiant yn cael ei fesur, cyfeiriwch at y Llawlyfr Polisi Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys ac Argyfwng.


Arweinwydd Nod 2: Richard Bowen, Cyfarwyddwr y Rhaglen Genedlaethol Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng / GIG 111 Cymru - ABB.SixGoalsUEC@wales.nhs.uk