Croeso i Gwasanaeth Gofal Llygaid Cymru. Gwefan i roi help llaw i bawb yw hon:
Sy’n poeni am eu golwg neu olwg perthynas neu ffrind. Os oes gennych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod broblem llygaid – boed yn argyfwng neu fod eich golwg yn dirywio’n raddol – dylech weld optometrydd stryd fawr (a elwir yn optegydd hefyd) ar unwaith. Mewn llawer o achosion ni fydd yn costio dim i chi a gallai achub eich golwg.
Sydd â nam ar eu golwg (rhywbeth o’i le ar eich llygaid na all sbectol neu lensys cyffwrdd ei gywiro). Mewn sefyllfa o’r fath mae’n debygol y byddwch chi’n gallu cael pob math o gymorth, yn cynnwys chwyddaduron am ddim a Chymorthion Golwg Gwan (LVAs).
Nid oes rhaid i chi dalu am ymweld â’r optometrydd os ydych chi:
Os ydych chi’n byw yng Nghymru a bod gennych chi feddyg teulu yng Nghymru, gall y rhan fwyaf o optometryddion gynnig prawf llygaid am ddim hefyd:
Argyfwng neu os oes gennych chi broblem gyda’ch llygaid sydd angen sylw brys
Os oes gennych chi unrhyw bryderon am eich llygaid, ewch i weld optometrydd ar y Stryd Fawr (a elwir yn optegydd hefyd) yn syth. Gall ddweud wrthych a ydych yn gymwys i gael archwiliad iechyd llygaid am ddim. Archwiliadau Iechyd Llygaid yng Nghymru (EHEW) yw’r enw ar yr archwiliadau hyn. Gall rhai clefydau llygaid arwain at ddallineb neu golli rhywfaint o’ch golwg, ond o’u canfod yn ddigon cynnar, yn aml mae modd arbed eich golwg.
Mae’r enw Archwiliadau Iechyd Llygaid yng Nghymru yn cyfleu yn union beth ydyw – archwiliad o iechyd eich llygaid. Bydd yr optometrydd yn archwilio’ch llygaid yn ofalus i weld a oes unrhyw beth o’i le. Bydd y profion a’r cyfarpar a ddefnyddir ganddynt yn dibynnu ar yr hyn a ddywedwch chi wrthynt a’r hyn maent yn ei ganfod. Mae archwiliad iechyd llygaid yn fwy manwl ac yn wahanol i brawf llygaid arferol, felly gall bara’n hirach.
Os yw’r optometrydd yn penderfynu eich bod angen archwiliad iechyd llygaid ni fyddwch yn gorfod talu.
Mae yna optometrydd ar bob Stryd Fawr yng Nghymru bron iawn. Os oes gennych broblem gyda’ch golwg, gallwch fynd i weld eich optometrydd arferol (os oes gennych chi un) neu ffonio neu gerdded i mewn i unrhyw bractis y gallwch chi ei gyrraedd yn gyfleus.
Golwg gwan neu olwg gwael hirdymor
Golwg gwan yw methu gweld cystal â’r rhan fwyaf o bobl eraill hyd yn oed pan fyddwch chi’n gwisgo sbectol neu lensys cyffwrdd. Er enghraifft, mae’n debygol y bydd gennych olwg gwan os ydych chi’n dioddef o ddirywiad macwlaidd sy’n gysylltiedig â henaint.
Os oes gennych chi nam ar eich golwg neu olwg gwan eisoes, gall optometrydd eich helpu i wneud y defnydd gorau o’r golwg sydd gennych. Bydd yn dechrau trwy wneud asesiad golwg gwan. Gallai’r asesiad hwn ddangos y byddech chi’n cael budd o ddefnyddio chwyddaduron neu olau gwell yn eich cartref er enghraifft. Gall yr optometrydd eich cynghori am bobl a sefydliadau eraill a allai eich helpu gyda thrafnidiaeth, budd-daliadau neu bethau syml i wneud bywyd yn haws o amgylch y cartref.
Mae’r Gwasanaeth Golwg Gwan yn gallu darparu rhai chwyddaduron a chymhorthion golwg gwan gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru. Ni fyddwch yn gorfod talu amdanynt.
Ond fe allwch brynu cymhorthion golwg gwan eich hun wrth gwrs. Gall eich canolfan adnoddau leol (sydd yng ngofal elusen weithiau) ddangos amrywiaeth o gynhyrchion i chi. Gallwch weld pa elusennau sy’n darparu gwasanaethau yn eich ardal drwy ddefnyddio’r dudalen chwilio .
Retinopathi Diabetig
Retinopathi diabetig yw’r anhwylder unigol mwyaf cyffredin sy’n achosi dallineb ymysg pobl â diabetes rhwng 16 a 64 oed ym Mhrydain. Cymhlethdod gyda’r llygad ydyw sy’n gallu effeithio ar unrhyw un sydd â diabetes, waeth pa fath neu driniaeth a dderbynnir.
Mae profion sgrinio llygaid rheolaidd yn hanfodol i amddiffyn eich golwg gan fod canfod y cyflwr yn gynnar yn allweddol i driniaeth lwyddiannus. Gall rheoli glwcos, pwysedd gwaed a cholesterol yn dda leihau eich risg o ddatblygu cymhlethdodau sy’n bygwth eich golwg hefyd.