Neidio i'r prif gynnwy

Ynglŷn â GIG 75

 

 

 

75 Mlynedd o'r GIG

Pan sefydlwyd y GIG gan yr Aelod Seneddol o Gymru, Aneurin Bevan, ar 5 Gorffennaf 1948, wedi'i ysbrydoli gan Gymdeithas Cymorth Meddygol Gweithwyr Tredegar, hon oedd y system iechyd gyffredinol gyntaf i fod ar gael i bawb, a hynny am ddim pryd bynnag a lle bynnag y bo'i angen. Mae'r egwyddorion hynny'n parhau i fod mor berthnasol heddiw ag yr oeddent yn y blynyddoedd ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ac maent yn parhau i gael eu gwerthfawrogi.

Ers ei sefydlu, mae'r GIG wedi arloesi ac addasu i ddiwallu anghenion pob cenhedlaeth, gan roi cleifion wrth galon popeth y mae'n ei wneud bob amser.

  • Mae'r GIG yng Nghymru yn cynnal tua 360 mil o ymgynghoriadau â chleifion bob mis ym maes gofal eilaidd yn unig (heb gynnwys apwyntiadau meddygon teulu na diagnosteg)
  • Mae 79 o fabanod yn cael eu geni bob dydd yng Nghymru / un enedigaeth bob 18 munud
  • Ar gyfartaledd mae dros 8,500 o welyau’r GIG yn cael eu defnyddio yng Nghymru bob dydd
  • Yn y 12 mis diwethaf, dechreuodd mwy na 20,000 o gleifion ar driniaeth canser yng Nghymru