Neidio i'r prif gynnwy

Nod 3: Dewisiadau eraill sy'n ddiogel yn glinigol yn lle mynd i'r ysbyty

Gall pobl ag anghenion gofal brys neu ofal mewn argyfwng gael mynediad at ofal priodol a diogel yn agos at eu cartref, gyda chymaint o barhad gofal â phosibl. Dim ond pan fo hynny’n angenrheidiol yn glinigol y dylid rhoi gwely acíwt i bobl sydd angen gofal parhaus.

Yn gysylltiedig â Nod 1 a Nod 2, a sefydlu gwasanaeth gofal brys 24 awr integredig, bydd y Bwrdd Iechyd a phartneriaid yn gweithio gyda’i gilydd i gyflawni’r nod hwn.

Datganiad Ansawdd:

  • Dylai nyrsys yn y gymuned, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a meddygon teulu gael mynediad amserol at gyngor ac arweiniad gan feddygon teulu a/neu gyngor ac arweiniad arbenigol er mwyn ategu penderfyniadau diogel ynghylch anghenion pobl mewn perthynas â gofal brys neu ofal mewn argyfwng. Mae hyn yn cynnwys helpu pobl i aros gartref; eu helpu i gael gofal dilynol amserol ar ôl defnyddio’r gwasanaeth ambiwlans, neu eu helpu i gael mynediad at y gwasanaeth ysbyty iawn, y tro cyntaf.
     
  • Mae pobl a gaiff eu hasesu ar gyfer gofal canolradd ‘cam i fyny’ seiliedig ar welyau yn cael cyngor clir ynglŷn â’r cymorth y bydd y gwasanaeth yn ei ddarparu; ac os caiff unigolyn ei dderbyn ar gyfer gofal canolraddol, bydd y gwasanaeth yn dechrau o fewn dwy awr i’r atgyfeiriad, yn unol â chanllawiau NICE.
     
  • Yn achos pobl sydd ag angen clinigol am driniaeth, prawf diagnostig a/neu asesiad wyneb yn wyneb mewn perthynas â gofal brys neu ofal mewn argyfwng mewn ysbyty, eir ati bob amser i ystyried eu rheoli ar y llwybr ‘gofal brys ar yr un diwrnod’ (triniaeth ddydd).
     
  • Bydd pobl hŷn / eiddil, a phobl sy’n nesáu at ddiwedd eu hoes, yn cael eu hasesu’n ddi-oed wrth y drws ffrynt neu gerllaw’r Adran Argyfwng, a bydd tîm amlasiantaethol yn gweithredu ar sail y penderfyniadau a wneir yn eu cylch. Dylai hyn gynnwys system a all ymateb i anghenion penodol pobl er mwyn osgoi achosion dieisiau a diangen o fynd i’r ysbyty, a dylid canolbwyntio ar gynnal maeth a hydradiad, symudedd, cyfathrebu a rheolaeth.
     
  • Bydd caffis argyfwng neu noddfeydd ar gael i unigolion, y tu allan i oriau gwaith arferol, yn eu cymunedau lleol a fydd yn darparu cymorth diogel tosturiol i’r rhai sydd mewn argyfwng iechyd meddwl.

I ddarllen mwy am Nod 3 gan gynnwys y blaenoriaethau cychwynnol, sut y bydd systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu cefnogi i gyflawni'r nod hwn a sut y bydd llwyddiant yn cael ei fesur, cyfeiriwch at y Llawlyfr Polisi Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys ac Argyfwng.


Arweinydd Nod 3:

Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol: 
Sue Morgan, Cyfarwyddwr Cenedlaethol ac Arweinydd Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol a Chymunedol - sppc@wales.nhs.uk

Gofal mewn Argyfwng ar yr Un Diwrnod: Rachel Taylor, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Trawsnewid ar gyfer Gweithrediaeth y GIG - sbu.duTransformation@wales.nhs.uk