Neidio i'r prif gynnwy

Archwiliadau Iechyd Llygaid Cymru

Archwiliadau Iechyd Llygaid Cymru - EHEW

 

Optometryddion

Optometryddion neu Ymarferwyr Meddygol Offthalmig (OMPs) sy’n asesu pwy sydd angen y gwasanaeth. Mae’r wybodaeth ganlynol ar gyfer optometryddion neu OMPs. Mae’n cynnwys sut i gofrestru i ddarparu’r gwasanaeth a’r canllawiau clinigol ar gyfer rhan Archwiliadau Iechyd Llygaid yng Nghymru o Wasanaeth Gofal Llygaid Cymru (WECS).

 

Os nad ydych chi wedi cofrestru ac yn awyddus i ddarparu WECS:

Er mwyn cofrestru i allu darparu’r gwasanaeth hwn, yn gyntaf rhaid i optometryddion neu OMPs gael eu hachredu. Rhaid cyflawni dysgu o bell ac asesiadau ymarferol er mwyn cael eich achredu.

Er mwyn darparu’r gwasanaeth EHEW mae’n rhaid i chi gael eich cofrestru gyda Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NHS SSP) i ddarparu Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol (GOS) mewn bwrdd iechyd yng Nghymru.  Os nad ydych chi wedi’ch cofrestru, cewch gysylltu â nhw ar Ophthalmic.SE@wales.nhs.uk.  Gall cofrestru gymryd hyd at 4-6 wythnos.

 

Canolfan Ôl-raddedig Optometrig Cymru (WOPEC) sy’n darparu’r gwasanaeth achredu. Gallwch weld a yw’r practis ble rydych chi’n bwriadu cynnig y gwasanaeth eisoes yn cynnig EHEW trwy ddefnyddio’r cyfleuster chwilio.

 

Os nad yw’r practis wedi’i gofrestru rhaid i chi’n gyntaf wirio a oes gan y practis y cyfarpar angenrheidiol. Mae ffurflen ar gael i’r diben hwn a gallwch ddefnyddio’r ffurflen i anfon y wybodaeth ofynnol er mwyn cofrestru practis. Dylech nodi nad yw practis wedi’i gofrestru oni bai bod optometrydd neu OMP ar gael i brofi cleifion ar gyfer EHEW bob wythnos.

Rhaid i’r practis lle bwriadwch gynnig y gwasanaeth fod â’r canlynol:

 

  • Lamp hollt
  • Volk, neu lens debyg ar gyfer Ophthalmosgôp Anuniongyrchol Deulygad (BIO)
  • Tonometer cyffwrdd (Goldmann neu Perkins)
  • Cyfarpar maes gweld awtomatig sy’n gallu cynhyrchu allbrint o blot maes
  • Offer tynnu blew llygaid
  • Offer tynnu pethau dieithr
  • Offthalmosgôp uniongyrchol
  • Siartiau Amsler
  • Cyffuriau diagnostig
  • Retinosgôp
  • Offer prawf llygaid addas i blant

 

Sut i wneud cais

Er mwyn i ni gael y wybodaeth gywir amdanoch ac am y practis lle byddwch yn darparu’r gwasanaeth EHEW, mae’n rhaid i ni gael ychydig o wybodaeth amdanoch. Ar ôl i ni dderbyn y manylion, bydd angen i chi ddilyn hyfforddiant a chael eich achredu cyn y gallwch gynnig y gwasanaethau i’ch cleifion.

Anfonwch eich cais i WECS@cardiff.ac.uk gan ddarparu’r wybodaeth ganlynol:

Eich enw llawn (fel y’i  nodir ar gofrestr y Cyngor Optegol Cyffredinol (GOC))

Eich rhif GOC (neu rif Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) os ydych yn  Ymarferydd Meddygol Offthalmig (OMP))

Blwyddyn eich cofrestriad cyntaf ar ôl llwyddo yn eich arholiadau cymhwyso

Yr holl bractisau y bwriadwch gynnig y gwasanaeth ynddynt (gan gynnwys y rhai na fyddwch yn gweithio ynddynt yn aml). Rhaid i hyn gynnwys enw’r practis, y cyfeiriad a chod post a rhif ffôn y practis

Cadarnhad bod gan unrhyw bractis y bwriadwch ddarparu’r gwasanaeth ynddo yr holl gyfarpar uchod

Rhif ffôn cyswllt y practis

 

Achredu

Fel optometrydd neu OMP, er mwyn gallu cynnig rhan EHEW o’r WECS, bydd yn rhaid i chi ddilyn hyfforddiant ymarferol a theori. WOPEC sy’n trefnu hyn.

 

Ar ôl i chi gofrestru a chofrestru’r practis lle bwriadwch ddarparu’r gwasanaeth, rhaid i chi gofrestru ar wefan WOPEC - www.wopec.co.uk.

 

Trwy gofrestru ar y wefan hon byddwch yn cael gwybod pryd bydd sesiynau achredu a hyfforddi nesaf EHEW yn dechrau. Fel rheol trefnir hyfforddiant bob chwe mis yng Nghymru.

 

Ar ôl i chi gofrestru a chofrestru’r practis, gan gofrestru gyda www.wopec.co.uk bydd angen i chi wedyn gysylltu â info@wopec.co.uk neu SheenNJ@cardiff.ac.uk i gael manylion pellach am gyflawni’r hyfforddiant a’r asesiad ymarferol.

 

Mae’r hyfforddiant fel a ganlyn:

Hyfforddiant dysgu o bell trwy gyfrwng CD-ROM. Mae 6 modiwl ynglŷn â mynd ati i reoli cleifion drwy’r gwasanaeth EHEW. Caiff y rhain eu hanfon atoch.

Ateb cwestiynau amlddewis (MCQ) yn seiliedig ar y deunydd dysgu o bell. Byddwch yn rhoi’r atebion trwy eu cofnodi ar wefan WOPEC.

Asesiad ymarferol. Byddwch yn cael eich asesu trwy Arholiadau Clinigol Strwythuredig Gwrthrychol neu OSCEs.

Os byddwch yn llwyddo yn yr MCQs a’r OSCEs ymarferol, byddwch yn gallu cynnig y gwasanaeth i gleifion yn y practis a ddewisoch.

Ariennir WOPEC i ddarparu 60 o leoedd yn unig y flwyddyn; felly mae’r rheolau canlynol yn berthnasol i optometryddion neu OMPs sy’n dymuno darparu’r gwasanaeth mewn practis penodol.

 

 

Rheolau sy’n pennu pwy gaiff eu hystyried ar gyfer eu hachredu (os yw’r lleoedd yn brin)

Os yw’n ymarfer mewn ardal gydag anghenion dynodedig*

Os mai dyma’r unig ymarferydd cofrestredig neu’r cyntaf i gael hyfforddiant yng nghyfeiriad y practis

Bydd ceisiadau dilynol yn cael eu dosbarthu ar sail y cyntaf i’r felin.

 

*Anghenion dynodedig yw pan nad oes gwasanaeth neu un gwasanaeth yn unig o fewn cylch o 10 milltir (cyfrifir y ffigur yn ôl llai na’r amser cyfartalog yn seiliedig ar werthusiad blaenorol ym mhob ardal)

 

 

Rhagor o wybodaeth am reoliadau a chanllawiau WECS

 

Canllawiau Gwasanaeth (Adran A)

Mae WECS yn disodli Gofal Llygaid Cymru (WECI) ac felly’n cwmpasu Gwasanaeth Golwg Gwan Cymru (LVSW), Gwasanaeth Sgrinio Retinopathi Diabetig Cymru (DRSSW) a’r fenter newydd sef Archwiliadau Iechyd Llygaid Cymru (EHEW). Mae’r canlynol yn amlinellu strwythur sy’n caniatáu i optometryddion neu ymarferwyr meddygol offthalmig (OMPs) ddarparu archwiliadau EHEW, archwiliadau / ymchwiliadau pellach a gwasanaethau dilynol EHEW.

 

Darllenwch y Llawlyfr Gwasanaeth

 

Canllawiau clinigol

Mae’r adran ganlynol yn rhoi canllawiau clinigol gyda phwyslais at y cyflyrau canlynol:

Cataract

Glawcoma a Gorbwysedd Ociwlar

Dirywiad Macwlaidd cysylltiedig ag oedran (AMD)

Y retina’n torri neu’n datgysylltu

 

 

[Glossary]

 

Geirfa o dermau perthnasol

WECS 1 – Ffurflen gais

Mae’r adran hon yn dangos enghraifft o gais (gyda thâl), y dylid ei anfon at yr SSP at ddibenion talu ac archwiliadau clinigol.

Mae canllawiau ar lenwi’r ffurflen gais hefyd yn gynwysedig

 

WECS 2 – ffurflen adrodd ar gyfer y meddyg teulu

Mae’r ffurflen hon ar gael yn electronig neu fel copi caled a dylid ei defnyddio i ysgrifennu adroddiad ar gyfer meddyg teulu’r claf neu pan fo angen atgyfeirio at feddyg teulu. Ni ddylid ei defnyddio i atgyfeirio cleifion i adran offthalmoleg. Ni ddylid ei defnyddio at ddibenion atgyfeirio. Mae’r ffurflen ysgrifenedig ar ffurf copi dyblyg er mwyn i chi gadw un copi ac i’r llall gael ei anfon at y meddyg teulu.

 

WECS 3 – atgyfeirio i adran offthalmoleg

Mae’r ffurflen hon ar gael yn electronig neu fel copi caled a dylid ei defnyddio i atgyfeirio claf naill ai i adran offthalmoleg neu at y meddyg teulu.

 

Atodiadau

Mae’r rhain yn cynnwys holiadur cataract i gleifion, gwefannau defnyddiol a meddyginiaethau Offthalmig at ddefnydd yr optometrydd.

 

Ffocws ar Offthalmoleg

Bydd gofal sylfaenol optometrig yn cysylltu’n aml ag ysbytai eilaidd wrth atgyfeirio cleifion ac ati. Mae llwybrau cenedlaethol penodol wedi’u cytuno ar gyfer glawcoma a chataract mewn gofal eilaidd, er y gall y trefniadau amrywio o ranbarth i ranbarth. Bydd Ffocws ar Offthalmoleg ar gael i’w lawrlwytho yn fuan.

 

[Info for GPs]

 

Gwybodaeth i Feddygon Teulu

Mae WECS yn unigryw i Gymru ac yn cynnig archwiliadau llygaid i gleifion gyda phroblem aciwt ar y llygaid sydd angen sylw brys neu i gleifion sydd mewn mwy o berygl o ddatblygu clefyd y llygaid neu a fyddai’n ei chael hi’n anodd iawn ymdopi ar ôl colli eu golwg. Mae Gwasanaeth Golwg Gwan Cymru (LVSW) hefyd yn rhan o WECS. Roedd y gwasanaethau hyn yn arfer bod yn rhan o Gofal Llygaid Cymru (WECI); mae WECS yn disodli’r gwasanaeth hwn.

Mae WECS ar gael i gleifion trwy ymweld â phractis optometrydd yng Nghymru sydd wedi cofrestru gyda WECS ac mae’n rhad ac am ddim yn y lleoliad lle darperir yr archwiliad llygaid i’r claf.

Mae cleifion sydd â phroblemau llygaid yn aml yn mynd i weld eu meddyg teulu. Un o nodau gwasanaeth WECS yw cyfeirio llawer o’r cleifion hyn at optometryddion pan fo hynny’n briodol.

Os hoffech drefnu sesiwn hyfforddi am WECS ar gyfer meddygon teulu yn eich ardal, hoffem glywed gennych. Anfonwch e-bost at Nik Sheen yn WECS@cardiff.ac.uk

 

Pa gleifion ddylwn i eu hanfon i weld optometrydd sydd wedi’i gofrestru gyda WECS?

Unrhyw glaf sydd â phroblemau llygaid sydd angen sylw brys (o fewn 24 awr).

Unrhyw glaf y credwch fod ganddo broblemau llygaid fyddai’n elwa o gael archwiliad gan optometrydd.

Dyma rai cleifion a fyddai’n gymwys i gael archwiliad WECS oherwydd eu bod yn fwy tebygol o ddatblygu clefyd y llygaid:

Cleifion sydd mewn perygl o glefyd llygaid oherwydd hanes teuluol

Ystyrir bod claf mewn perygl o glefyd llygaid yn sgil hanes teuluol os yw’n dad, mam, brawd neu chwaer neu blentyn genetig i rywun sydd â chlefyd y llygaid (ac eithrio cataract) y gwyddys ei fod mewn perygl o etifeddu’r cyflwr. Mae’r cyflyrau’n cynnwys: Glawcoma, Diabetes Mellitus, Retinitis Pigmentosa, AMD.

 

Cleifiion sydd mewn perygl o glefyd llygaid oherwydd cefndir ethnig

Mae ymchwil epidemiolegol wedi dangos bod claf o gefndir ethnig Asiaidd neu Ddu/Affricanaidd/Caribïaidd mewn mwy o berygl o ddatblygu Diabetes Mellitus a Glawcoma o gymharu â chefndir gwyn neu grwpiau ethnig eraill. Felly, mae cleifion sydd wedi cadarnhau eu bod yn perthyn i’r grwpiau ethnig hynny (a thrwy gysylltiad rhai sy’n Brydeinig Asiaidd neu’n Brydeinig Ddu) mewn mwy o berygl o glefyd y llygaid sy’n peryglu’r golwg.

 

At bwy ddylwn i anfon cleifion?

Mae manylion practisau sy’n cynnig WECS ar y wefan a gallwch eu gweld trwy’r cyfleuster chwilio. Gallwch hefyd weld rhestr o’r practisau hynny sy’n cynnig Gwasanaeth Golwg Gwan Cymru trwy ddefnyddio’r un cyfleuster chwilio.

 

Beth sy’n digwydd i gleifion ar ôl i chi eu hatgyfeirio?

Bydd optometrydd yn anfon adroddiad ysgrifenedig safonol atoch ymhen 2-3 diwrnod.

Bydd neges ffacs neu alwad ffôn yr un diwrnod yn rhoi gwybod pan fydd angen atgyfeirio claf ar frys i’r HES.

Bydd gwasanaeth llygaid yr ysbyty’n anfon adborth i’r optometrydd ac i feddyg teulu’r claf yn y ffordd arferol gyda gwybodaeth neu lythyr rhyddhau.