Cyflwyniad i WGOS
Yn dilyn newidiadau deddfwriaethol yn 2023, disodlodd Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol Cymru (WGOS) Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol (Cymru) (GOS[W]), Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru (EHEW), Gwasanaethau Golwg Gwan Cymru (LVSW), a llawer o lwybrau gwasanaeth gwell lleol amrywiol.
Er mwyn darparu WGOS, rhaid i bob contractwr ac ymarferwr gael eu rhestru ar restr Offthalmig neu Weinyddol Cymru a rhaid iddynt fod wedi cwblhau hyfforddiant cydymffurfio â WGOS.
Mae WGOS yn wasanaeth gofal llygaid haenog, gweler isod am ragor o wybodaeth.
Yng Nghymru, mae gwasanaeth gofal llygaid ar gyfer cleifion sydd â phroblem llygaid sydd angen sylw brys yn eu barn nhw. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael ledled Cymru drwy ymweld â neu ffonio practis optometreg (optegwyr) a nodi’r broblem yr ydych yn ei chael gyda’ch llygad neu lygaid.
Ar adegau eraill efallai y bydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol (meddyg teulu neu fferyllydd fel arfer) yn teimlo bod angen brys am asesiad llygaid.
Fel arfer, rhaid i'r canlynol fod yn berthnasol i gael mynediad i'r gwasanaeth:
Mae yna angen aciwt - fel arfer newid mewn golwg, mae'r llygad yn anghyfforddus neu'n boenus neu mae newid yn ymddangosiad y llygad - sydd wedi dechrau'n ddiweddar.
Dylech siarad â'r practis optometreg yn bersonol neu dros y ffôn. Peidiwch â defnyddio e-bost, peiriant ateb neu gyfathrebiadau eraill nad ydynt yn rhyngweithiol ar gyfer problemau y credwch sydd angen sylw brys. Dylai'r practis sicrhau bod y canlynol yn digwydd:
Os ydych chi (fel claf, neu weithiwr iechyd proffesiynol arall) yn teimlo y bu anhawster i gael mynediad at y gwasanaeth ac nad yw'r disgwyliadau uchod wedi'u bodloni, rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl yn y cwestiynau canlynol. Gofynnwn am hyn er mwyn targedu ein cefnogaeth i'r gwasanaeth, er budd cleifion y dyfodol. Mae'r wybodaeth yn cael ei hanfon at y Bwrdd Iechyd sydd â throsolwg o'r gwasanaeth.
Diolch.