Neidio i'r prif gynnwy

Dyletswydd Gonestrwydd / Codi Pryder

 

 

Codi Pryder ynghylch Gwasanaeth Offthalmig Cyffredinol Cymru (WGOS)

Ffurflen adrodd am anawsterau o ran cael apwyntiad mewn practis optometreg (optegydd) ar gyfer problem llygaid sydd angen sylw brys.

Yng Nghymru, mae gwasanaeth gofal llygaid ar gyfer cleifion sydd â phroblem llygaid sydd angen sylw brys yn eu barn nhw. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael ledled Cymru drwy ymweld â neu ffonio practis optometreg (optegwyr) a nodi’r broblem yr ydych yn ei chael gyda’ch llygad neu lygaid.

Ar adegau eraill efallai y bydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol (meddyg teulu neu fferyllydd fel arfer) yn teimlo bod angen brys am asesiad llygaid.

Fel arfer, rhaid i'r canlynol fod yn berthnasol i gael mynediad i'r gwasanaeth:

Mae yna angen dybryd - fel arfer newid mewn golwg, mae'r llygad yn anghyfforddus neu'n boenus neu mae newid yn ymddangosiad y llygad - sydd wedi dechrau'n ddiweddar.

Dylai'r practis optometreg (optegwyr) sicrhau bod y canlynol yn digwydd:

  1. Bydd y claf yn gallu cael mynediad i’r apwyntiad o fewn 24 awr i gais;

  2. Mae’n well i glaf fynd at yr Optometrydd y mae’n gyfarwydd ag ef, ond os nad oes apwyntiad ar gael o fewn amserlen briodol disgwylir y bydd y practis cyntaf y cysylltir ag ef yn dod o hyd i apwyntiad ar gyfer y claf yn rhywle arall.

  3. Ni fydd unrhyw dâl ariannol ar y claf am archwiliad.

Os ydych chi (fel claf, neu weithiwr iechyd proffesiynol arall) yn teimlo y bu anhawster i gael mynediad at y gwasanaeth ac nad yw'r disgwyliadau uchod wedi'u bodloni, rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl yn y cwestiynau canlynol. Gofynnwn am hyn er mwyn targedu ein cefnogaeth i'r gwasanaeth, er budd cleifion y dyfodol. Mae'r wybodaeth yn cael ei hanfon at y Bwrdd Iechyd sydd â throsolwg o'r gwasanaeth.

Diolch.