Mae'r wybodaeth ganlynol ar gyfer optometryddion, OMPs a DOs. Mae'n cynnwys sut i gael eich achredu i ddarparu'r gwasanaeth, a chael fersiynau electronig o'r protocolau, yr offer a'r gwaith papur ar gyfer y gwasanaeth.
Os oes gennych ddiddordeb mewn darparu Golwg Gwan WGOS
Mae’n rhaid i ymarferwyr sy’n dymuno darparu’r gwasanaeth gael hyfforddiant a chael eu hachredu gan yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg, Prifysgol Caerdydd. I ymgymryd â’r hyfforddiant rhaid i ymarferwyr ymarfer yng Nghymru, cydymffurfio â WGOS a bod yn optometrydd neu’n Ymarferydd Meddygol Offthalmig sydd wedi cofrestru gyda’r Cyngor Optegol Cyffredinol (GOC) neu’n optegydd dosbarthu sydd wedi’i gofrestru gyda’r GOC.
Mae'n ofynnol i optegwyr dosbarthu sy'n dymuno darparu'r gwasanaeth gael hyfforddiant pellach mewn patholeg. Mae hyn ar ffurf dau fodiwl dysgu o bell ac asesiad gan MCQs.
Beth mae'r hyfforddiant a'r achrediad yn ei olygu?
Mae'r hyfforddiant ar ffurf modiwlau ôl-raddedig Prifysgol Caerdydd OPT001 ac OPT002. Bydd y rhai sy'n llwyddiannus yn ennill Tystysgrif Coleg yr Optometryddion mewn Golwg Gwan. Mae gwybodaeth fanwl am yr hyn y mae’r modiwlau yn ei olygu i’w chael yma:
Mae hefyd yn ofynnol i ymarferwyr gwblhau hyfforddiant diogelu a hyfforddiant sgrinio iselder. Unwaith y bydd ymarferydd wedi'i achredu mae'n derbyn unrhyw offer a gwaith papur sydd ei angen i ddarparu'r gwasanaeth.
Sut mae gwneud cais i gael fy achredu?
Canolfan Optometrig Ôl-raddedig Cymru (WOPEC) sy'n achredu'r gwasanaeth. Gall yr arweinydd clinigol ar gyfer y gwasanaeth, Rebecca Bartlett, ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych ynghylch achredu a’r broses ymgeisio. Gellir cyfeirio ymholiadau at Low.Vision@wales.nhs.uk
Adnoddau Golwg Gwan WGOS
Dogfennau Tystysgrif Nam ar y Golwg Cymru