Yn ystod y pandemig dangosodd y GIG ei gwytnwch yn ystod cyfnod anodd iawn. Bu'n flaenllaw ym maes ymchwil ac arweiniodd raglen frechu lwyddiannus iawn.
Rhan fawr o'r ymateb hwnnw oedd Rhaglen Frechu GIG Cymru sydd, ers mis Rhagfyr 2020, wedi rhoi cyfanswm o 8,628,990 dos o’r brechlyn yng Nghymru, sy’n cynnwys 2.59 miliwn o ddosau cyntaf, 2.48 miliwn o ail ddosau a 2 filiwn o ddosau atgyfnerthu.