Heddiw, mae'r GIG yng Nghymru'n trawsnewid drwy arloesi a sicrhau arfer gorau ar hyd a lled y wlad.
Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb sgiliau, ymroddiad a thosturi staff a gwirfoddolwyr y GIG. O'r bydwragedd sy'n helpu i ddod â ni i'r byd, y meddygon teulu a'r fferyllwyr rydyn ni’n mynd atynt yn gyntaf pan fyddwn yn sâl, y nyrsys, y meddygon a'r clinigwyr eraill sy'n gofalu amdanom pan fyddwn ni eu hangen, y porthorion a'r glanhawyr sy'n cadw ein hysbytai i symud, a'r cannoedd o filoedd o staff a gwirfoddolwyr ymroddedig eraill – ein pobl yw'r grym sy'n ein helpu i wneud hyn.