Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau a Chymorth Ymchwil

 

Cefnogaeth i Ddatblygu Ceisiadau Cyllid Ymchwil

Os ydych yn bwriadu datblygu cais am gyllid ymchwil, mae nifer o bobl ar gael i'ch cefnogi:

Mae Gwasanaeth Cynllunio a Chynnal Ymchwil Cymru Gyfan yn cefnogi gweithwyr proffesiynol y GIG a gofal cymdeithasol i ddatblygu cynigion ariannu ymchwil o ansawdd uchel.

Cymorthfeydd Ymchwil y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol: canllawiau 1:1 ar sut i gymryd rhan mewn ymchwil, dod o hyd i gyfleoedd ariannu a sut i ddatblygu syniadau ymchwil ar gyfer ceisiadau am gyllid, yn ogystal ag ateb unrhyw ymholiadau eraill sydd gennych.

 

Canllawiau Ymchwil

Mae Hyb Adnoddau Ymchwil  y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol yn rhoi arweiniad a chymorth o ddechrau eich taith ymchwil. Mae'r hyb yn cynnwys cynllunio ar gyfer ymchwil, adolygiad beirniadol, methodoleg, ceisio cyllid a sut i ddadansoddi a chyfleu canlyniadau.

Mae Pharmacy Research UK yn darparu arweiniad a chymorth i ymchwilwyr sy'n llunio ceisiadau ymchwil trwy eu tudalen Canllawiau Ymchwil