Cyllidwyr Ymchwil Fferylliaeth
Mae nifer o gyllidwyr cenedlaethol yn cefnogi ymchwil i ymarfer fferylliaeth ac ymchwil glinigol, gan gynnwys:
- Partneriaeth rhwng chwe Sefydliad Addysg Uwch yng Nghymru yw Cydweithrediad Cynyddu Gwaith Ymchwil Cymru (RCBC). Fe’i sefydlwyd yn 2006 i gynyddu gallu ymchwil nyrsio, bydwreigiaeth, proffesiynau perthynol i iechyd a fferylliaeth ac i gyfrannu at ddatblygu rolau academaidd clinigol. Mae RCBC yn ariannu Cymrodoriaethau Ôl-ddoethuriaethol, Cymrodoriaethau PhD a nifer o ddyfarniadau newydd o'r enw Cymrodoriaeth PhD Gyrfa Gynnar
- Pharmacy Research UK yw'r brif elusen ymchwil sy'n cefnogi fferyllwyr a fferylliaeth i wella gofal iechyd er budd cleifion a'r cyhoedd. Mae’n ariannu grantiau ymchwil, bwrsariaethau a chymrodoriaethau ar gyfer gweithwyr fferyllol proffesiynol.
- Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cynnal nifer o gynlluniau a gynlluniwyd i ysgogi rhagoriaeth a chefnogi meithrin gallu mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol. Maent hefyd yn ariannu gyda phartneriaid yn y DU gan gynnwys Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Iechyd Lloegr (NIHR) a’r Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC)
- Mae Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Caerdydd yn cynhyrchu cylchlythyr misol o gyfleoedd ariannu ar gyfer staff fferyllol yng Nghymru: edrychwch ar ein postiadau diweddar am fanylion.
I weld mwy o gyfleoedd ariannu sy’n agored i weithwyr fferyllol proffesiynol, gweler A-Z o adnoddau ariannu y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol.
Aelod o'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol? Ymunwch â'r Fforwm Ymchwil a Gwerthuso i gael diweddariadau ar hyfforddiant ymchwil a chyllid.