Neidio i'r prif gynnwy

Argyfyngau neu broblemau llygaid sydd angen sylw brys

Os oes gennych unrhyw bryderon o gwbl am eich llygaid, ewch i weld optometrydd ar y Stryd Fawr (a elwir hefyd yn optegydd) ar unwaith. Bydd ef neu hi yn dweud wrthych os ydych yn gymwys i gael archwiliad iechyd llygaid am ddim. Gelwir yr archwiliad hwn yn Archwiliad ar gyfer problemau llygaid brys ac mae hwn ar gael o dan Wasanaethau Offthalmig Cyffredinol Cymru. Gall rhai clefydau llygaid arwain at ddallineb neu golli rhywfaint o olwg, ond os caiff ei ganfod yn ddigon cynnar, gellir arbed eich golwg yn aml.

Fel rhan o archwiliad ar gyfer problem llygaid brys bydd yr optometrydd yn archwilio eich llygaid yn ofalus i weld a oes unrhyw beth o'i le. Bydd y profion a'r offer y byddant yn eu defnyddio yn dibynnu ar yr hyn a ddywedwch wrthynt a'r hyn y byddant yn ei ddarganfod. Mae archwiliad llygaid ar gyfer problem llygaid brys yn fwy manwl ac yn wahanol i brawf golwg arferol felly gall gymryd mwy o amser. Os bydd yr optometrydd yn penderfynu bod angen archwiliad arnoch am broblem frys gyda'r llygaid, ni fydd yn costio dim i chi.

Gallwch ddod o hyd i optometrydd ar y rhan fwyaf o Strydoedd Mawr Cymru. Os oes gennych chi broblem golwg, gallwch fynd at eich optometrydd presennol (os oes gennych chi un) neu ffonio neu gerdded i mewn i unrhyw bractis sy'n gyfleus i chi.