Cyflwyniad i WGOS
Yn dilyn newidiadau deddfwriaethol yn 2023, disodlodd Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol Cymru (WGOS) Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol (Cymru) (GOS[W]), Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru (EHEW), Gwasanaethau Golwg Gwan Cymru (LVSW), a llawer o lwybrau gwasanaeth gwell lleol amrywiol.
Er mwyn darparu WGOS, rhaid i bob contractwr ac ymarferwr gael eu rhestru ar restr Offthalmig neu Weinyddol Cymru a rhaid iddynt fod wedi cwblhau hyfforddiant cydymffurfio â WGOS.
Mae WGOS yn wasanaeth gofal llygaid haenog, gweler isod am ragor o wybodaeth.
Mae’n bwysig i ymarferwyr nodi y gall llwybrau sy’n ymwneud â phob lefel o WGOS amrywio rhwng byrddau iechyd.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am y llwybrau ar gyfer pob lefel WGOS ym mhob bwrdd iechyd gan ddefnyddio'r botymau isod.