Cytunwyd ar Fewnwelediadau Gwasanaeth fel rhan o drafodaethau diwygio Optometreg 2023 ac mae’n ffurfio un rhan o becyn ansawdd WGOS. Yr agweddau eraill ar hyn yw cwblhau Ansawdd ar gyfer Optometreg (QfO) ac adroddiadau gweithlu gan gontractwyr.
Mae WGOS angen tri mewnwelediad gwasanaeth bob blwyddyn ariannol. Bydd y rhain yn cwmpasu WGOS1 a 2, WGOS 3, 4, a 5, darparu polisi ehangach Llywodraeth Cymru ar ofal nad yw’n ofal llygaid o fewn gofal sylfaenol.
Cytunir ar gynnwys pob mewnwelediad gwasanaeth gan GIG Cymru, Llywodraeth Cymru ac Optometreg Cymru. Mae arweinydd clinigol cenedlaethol WGOS yn atebol am yr wybodaeth a gasglwyd gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn y Mewnwelediadau Gwasanaeth WGOS ac am adrodd ar y canfyddiadau.
Mae'r Mewnwelediadau Gwasanaeth wedi'u cynllunio i gefnogi darparu WGOS. Eu diben yw deall y modd y caiff WGOS ei gyflawni yn well a nodi meysydd lle mae angen datblygu gwasanaethau i gleifion neu gymorth i ymarferwyr a chontractwyr ymhellach. Gall hyn gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:
Mae cymryd rhan mewn Mewnwelediadau Gwasanaeth WGOS yn orfodol i bob contractwr ar restr Offthalmig Cymru fel y nodir yn y rheoliadau.1 Mae'n ofynnol i gontractwyr eiddo sefydlog a chontractwyr symudol gymryd rhan.
Bydd angen tri Mewnwelediad Gwasanaeth WGOS bob blwyddyn ariannol. Byddant yn cael eu cyflwyno fel arolygon ar-lein. Bydd yr arolygon yn cael eu cynnal gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a fydd yn casglu ac yn dadansoddi’r ymatebion cyn adrodd ar yr wybodaeth a gasglwyd.
Bydd Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn hysbysu contractwyr pan fydd angen iddynt gwblhau Mewnwelediadau Gwasanaeth. Neilltuir digon o amser ar gyfer eu cwblhau. Cyfrifoldeb y contractwr yw sicrhau a hwyluso ymarferwyr a staff eraill i gyflenwi gwybodaeth ar gyfer Mewnwelediadau Gwasanaeth yn ôl y gofyn.
Bydd cyflwyno gwybodaeth i system ar-lein Mewnwelediadau Gwasanaeth yn cynhyrchu codau derbynneb unigryw a fydd yn darparu prawf o gyfranogiad sy'n ofynnol gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru i wneud taliad pecyn Ansawdd WGOS.
Mae cymryd rhan mewn Mewnwelediadau Gwasanaeth WGOS yn orfodol i bob contractwr ar restr Offthalmig Cymru. Ni fydd contractwyr nad ydynt yn cymryd rhan yn derbyn taliad pecyn ansawdd WGOS. Gallant hefyd gael eu hystyried yn torri eu Telerau Gwasanaeth gan eu Bwrdd Iechyd.
Ni ddylai fod yn fwy na 30 munud i gwblhau pob Arolwg Mewnwelediad.
Byddant. Bydd ymatebion yn cael eu prosesu yn unol â Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2018 (GDPR). Er y gellir casglu data demograffig, ni fydd unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy yn cael ei chasglu, felly bydd yr holl ymatebion yn gwbl ddienw.
Bydd ymatebion Mewnwelediad Gwasanaeth yn cael eu storio ar gyfrifiaduron y GIG, sy'n ddiogel ac wedi'u diogelu gan gyfrinair. Ni chaiff unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy ei chasglu na'i storio.
Bydd yr ymatebion yn cael eu dadansoddi a bydd y canfyddiadau'n cael eu cyflwyno mewn adroddiadau ar gyfer Pwyllgor Gofal Llygaid Cymru (ECWC). Mae’n bosib y bydd y canfyddiadau hyn hefyd gael eu cyhoeddi mewn cyfnodolion academaidd a phroffesiynol a gellir eu cyflwyno a'u trafod mewn cynadleddau academaidd a chlinigol. Yn y pen draw, bydd hyn yn arwain at well dealltwriaeth o ddarpariaeth WGOS a nodi meysydd lle mae angen datblygu gwasanaethau i gleifion, neu gymorth i ymarferwyr a chontractwyr ymhellach.
Bydd byrddau iechyd yn gwneud taliadau i gontractwyr drwy Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn flynyddol. Mae rhagor o wybodaeth am y broses hawlio ar gael yma.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â: nwwsp-primarycareservices@wales.nhs.uk
1. Adran 11, Telerau Gwasanaeth (Atodlen 4 o Reoliadau 2023 y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig) (Cymru) (Rhif 1053 (Cy. 179)))